Rhagarweiniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Rhagfyr 2017 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.