Rhyddhad i’r prynwr gwreiddiol: is-werthiannau cymwys
159.Mae paragraff 19 yn nodi’r amodau ar gyfer rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan geir is-werthiant cymwys (fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6)). Mae’n darparu bod rhyddhad ar gael:
pan fo’r trafodiad cyn-gwblhau yn is-werthiant cymwys;
pe bai’r prynwr gwreiddiol (oni bai am y paragraff hwn) yn atebol am dreth trafodiadau tir ar y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo drwy gwblhau’r contract gwreiddiol neu drwy ei gyflawni’n sylweddol;
os cyflawnir yr is-werthiant cymwys ar yr un pryd â’r contract gwreiddiol ac mewn cysylltiad â hynny; a
os hawlir rhyddhad mewn cysylltiad â’r trafodiad tir y darperir ar ei gyfer yn yr ail bwynt bwled uchod mewn ffurflen dreth trafodiadau tir.
160.Pan fo’r is-werthiant cymwys ar gyfer holl destun y contract gwreiddiol, mae’r trafodiad wedi ei ryddhau rhag treth trafodiadau tir.
161.Mae is-baragraff (3) yn nodi sut i bennu swm y gydnabyddiaeth pan fo’r is-werthiant cymwys yn ymwneud â rhan o destun y contract gwreiddiol. Yn y sefyllfa hon nid yw rhyddhad llawn ar gael, ond gostyngir swm y gydnabyddiaeth yn gyfatebol. Gall mwy nag un is-werthiant cymwys arwain at fwy nag un gostyngiad mewn treth trafodiadau tir.
162.Nid yw rhyddhad ar gael os cafodd y contract gwreiddiol ei gyflawni’n sylweddol cyn yr ymrwymwyd i’r is-werthiant cymwys; neu os yw’r trafodiad y rhoddir effaith iddo gan yr is-werthiant cymwys wedi ei ryddhau yn rhinwedd Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall).
163.Os ceir is-werthiannau olynol, mae’r amodau ar gyfer rhyddhad a nodir yn y paragraff hwn yn gymwys ar wahân i bob is-werthiant olynol.