Atodlen 12 – Rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
319.Yn sgil cyflwyno partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 crëwyd cyfrwng busnes newydd yn y DU sy’n rhoi atebolrwydd cyfyngedig i bartneriaid mewn partneriaeth o’r fath. Darperir rhyddhad, yn ddarostyngedig i’r amodau a bennir, er mwyn galluogi partneriaethau presennol i ymgorffori fel partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig heb fod yn agored i dreth trafodiadau tir ar drafodiadau tir y rhoddir effaith iddynt fel rhan o’r ymgorffori hwnnw.
320.Mae’r Atodlen hon yn nodi’r tri amod y mae’n rhaid eu bodloni ar gyfer tir a drosglwyddir mewn cysylltiad ag ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd i’w rhyddhau rhag treth trafodiadau tir. Yr amodau i’w bodloni yw:
ni all y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fod yn fwy nag un flwyddyn ar ôl dyddiad ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
ar yr adeg berthnasol (a ddiffinnir gan baragraff 5(1)), bod y trosglwyddwr:
yn bartner mewn partneriaeth sy’n cynnwys yr holl bersonau sydd (neu a fydd) yn aelodau o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (a neb arall); neu
yn dal y buddiant ar ymddiriedolaeth noeth ar gyfer un neu ragor o’r partneriaid; a
bod y cyfrannau o’r buddiannau a ddelir gan y partneriaid yr un faint cyn ac ar ôl y trafodiad neu, pan fônt yn wahanol, nad yw’r gwahaniaethau o ganlyniad i ymrwymo i drefniant osgoi trethi er mwyn osgoi treth trafodiadau tir neu dreth arall.