Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Contractau isfeddiannaeth

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Contractau isfeddiannaeth yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 29 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 3 Chapter 8 Crossheading Contractau-isfeddiannaeth:

  • specified provision(s) savings for amendments by 2018 anaw 1, s. 6, Sch. 6 by S.I. 2019/110 reg. 5

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

Contractau isfeddiannaethLL+C

59Contractau isfeddiannaeth: dehongliLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae “contract isfeddiannaeth” yn gontract meddiannaeth—

(a)a wneir gyda landlord sy’n ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth, a

(b)sy’n ymwneud â’r annedd i gyd neu ran o’r annedd y mae’r contract hwnnw yn berthnasol iddi.

(3)Ystyr “isddeiliad” yw deiliad y contract o dan y contract isfeddiannaeth.

(4)Ystyr “prif landlord” yw’r landlord o dan y prif gontract.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 59 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

60Nid yw contract isfeddiannaeth byth yn cael effaith fel trosglwyddiadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn gwneud contract isfeddiannaeth, a bod cyfnod y contract isfeddiannaeth yn dod i ben ar yr un pryd â chyfnod y prif gontract.

(2)Mae’r contract isfeddiannaeth yn cael effaith fel contract isfeddiannaeth (ac nid fel trosglwyddiad i’r isddeiliad).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 60 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

61Methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlordLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn caniatáu i ddeiliad y contract ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda chydsyniad y prif landlord.

(2)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau (gweler adran 84), cyn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda pherson rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r person hwnnw o’r amodau hynny.

(3)Os nad yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth, mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi cyflawni tor contract ymwrthodol o’r contract isfeddiannaeth (gweler adran 154).

(4)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth—

(a)mae adran 32 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y gofynion eraill yn yr adran honno) fod yn rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o’r contract isfeddiannaeth nodi’r amodau a osodir gan y prif landlord, a

(b)mae adran 37 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y darpariaethau eraill yn yr adran honno)—

(i)yn is-adran (1), y caiff yr is-ddeiliad wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y datganiad ysgrifenedig yn nodi amod yn anghywir neu’n nodi amod na chafodd ei gosod gan y prif landlord,

(ii)bod gan y prif landlord hawl i fod yn barti i’r achos ar y cais, a

(iii)y caiff y llys, os yw’n fodlon bod y naill neu’r llall o’r seiliau yn is-baragraff (i) wedi ei phrofi, wneud datganiad yn nodi’r amod cywir neu, yn ôl y digwydd, y caiff ddatgan nad yw’r amod yn amod a osodwyd gan y prif landlord.

(5)Nid yw contract isfeddiannaeth [F1wedi ei wneud mewn modd nad yw’n] unol â’r prif gontract ond oherwydd—

(a)bod y prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)na chydymffurfir â’r amodau.

(6)Mewn achos o’r fath caiff y prif landlord ddewis trin y contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a ganlyn—

(a)mae’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontract safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori heb eu haddasu,

(b)nid oes effaith i unrhyw delerau yn y contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny, ac

(c)fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol.

(7)Os yw’r prif landlord yn dewis ei drin fel contract safonol cyfnodol o dan is-adran (6), rhaid i’r prif landlord hysbysu deiliad y contract a’r isddeiliad am y dewis hwnnw.

(8)Dim ond ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud a chyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben y caiff y prif landlord roi hysbysiad o dan is-adran (7).

(9)Os yw’r prif landlord yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adrannau (7) a (8), mae’r contract i’w drin fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (6) o ran unrhyw gwestiwn sy’n codi rhwng yr isddeiliad ac unrhyw berson heblaw deiliad y contract.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 61 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

62Y prif gontract yn dod i benLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw’r prif gontract yn dod i ben ar ôl dyddiad meddiannu’r prif gontract.

(2)Os yw’r contract isfeddiannaeth yn dal i fodoli yn union cyn i’r prif gontract ddod i ben⁠—

(a)mae’r contract isfeddiannaeth yn parhau (fel contract meddiannaeth nad yw’n gontract isfeddiannaeth), a

(b)mae hawliau a rhwymedigaethau deiliad y contract fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i’r prif landlord.

(3)Os yw’r isddeiliad yn gofyn i’r prif landlord am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract o dan adran 31(4), (ac nad yw is-adran (5) o’r adran hon yn gymwys), mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn adrannau 34(4) a 35(5) (methiant i ddarparu datganiad) yn cynnwys y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y prif gontract.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)prif landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol ag adran 61(7) a (8), mewn perthynas â chontract, a

(b)y contract yn parhau oherwydd is-adran (2)(a) o’r adran hon.

(5)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, at ddibenion adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig o’r contract) mae dyddiad meddiannu’r contract i’w drin—

(a)os rhoddir yr hysbysiad a grybwyllir yn adran 61(7) i’r isddeiliad cyn diwedd y prif gontract, fel y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben;

(b)os rhoddir yr hysbysiad i’r isddeiliad ar y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben neu ar ôl hynny, fel y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r prif gontract yn gontract safonol cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 62 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

63Y prif gontract yn dod i ben: darpariaeth bellachLL+C

(1)Nid oes dim yn adran 62 yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y prif landlord o dan adran 61(6) (y pŵer i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol).

(2)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud y prif landlord yn atebol i’r isddeiliad mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth a gyflawnwyd gan ddeiliad y contract.

(3)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud yr isddeiliad yn atebol i’r prif landlord mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth gan yr isddeiliad a ddigwyddodd cyn i’r prif gontract ddod i ben.

(4)Ond gall y prif landlord fod yn atebol i’r isddeiliad, neu’r isddeiliad i’r prif landlord, i’r graddau y mae unrhyw dor contract isfeddiannaeth yn parhau ar ôl i’r prif gontract ddod i ben.

(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn effeithio ar unrhyw bŵer y mae’r contract isfeddiannaeth yn ei roi i’r prif landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10A. 63 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

64Hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract pan fo isddeiliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D, ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud, yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i D, neu hysbysiad arall yn hysbysu D bod rhaid iddo ildio meddiant.

(2)Ar yr un pryd ag y mae’n rhoi hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i D, rhaid i landlord D roi hysbysiad i’r isddeiliad—

(a)sy’n datgan ei fod yn bwriadu gwneud hawliad meddiant yn erbyn D, a

(b)sy’n pennu’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 64 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.

(2)Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—

(a)y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu

(b)y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.

(3)Mae’r gofynion fel a ganlyn—

(a)rhaid i landlord D fod wedi rhoi [F2hysbysiad yn unol ag adran 64(2)], a

(b)ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—

(i)o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a

(ii)o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.

(4)Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).

(5)Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.

(6)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 65 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

66Gwahardd deiliad y contract ar ôl cefnu ar gontractauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)bod yr isddeiliad (“I”) yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(2)Caiff I weithredu i ddod â’r prif gontract i ben yn unol â’r adran hon.

(3)Rhaid i I roi hysbysiad i D—

(a)yn datgan bod I yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D hysbysu I mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw’n ystyried ei fod yn barti i un o’r contractau hynny, neu i’r ddau ohonynt, ac

(c)yn hysbysu D y caniateir i’r prif gontract gael ei derfynu ar ôl y cyfnod rhybuddio ac y caniateir i’w hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract isfeddiannaeth gael eu trosglwyddo i landlord D.

(4)Rhaid i I roi copi o’r hysbysiad i landlord D.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i I wneud y cyfryw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hun nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff I, os yw wedi ei fodloni fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn—

(a)sy’n dod â’r prif gontract i ben, a

(b)bod hawliau a rhwymedigaethau D fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth i’w trosglwyddo i landlord D yn unol ag adrannau 62 a 63.

(7)Ni chaiff y llys wrando ar gais I o dan is-adran (6) os yw I wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (4); ond os yw’n ystyried bod hynny’n rhesymol caiff y llys hepgor y gofyniad hwnnw.

(8)Mae gan landlord D hawl i fod yn barti i achos ar gais a wneir gan I o dan is-adran (6).

(9)Os yw’r llys yn fodlon nad yw D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth, caiff wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano o dan is-adran (6); ac os yw’n gwneud hynny rhaid iddo bennu’r dyddiad y daw’r prif gontract i ben.

(10)Ond ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan is-adran (9)—

(a)os yw landlord D yn barti i’r achos,

(b)os yw landlord D yn haeru y byddai’r llys wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I, pe byddai D wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath mewn hawliad meddiant a wnaed gan D yn erbyn I, ac

(c)os yw’r llys yn fodlon y byddai wedi gwneud y gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I yn yr amgylchiadau hynny.

(11)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i D.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 66 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

67Rhwymedïau’r deiliad contract sydd wedi ei waharddLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn yn erbyn D o dan adran 66(9).

(2)Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff D wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).

(3)Y seiliau yw—

(a)bod I wedi methu â rhoi hysbysiad i D o dan adran 66(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 66(5);

(b)bod D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract neu’r contract isfeddiannaeth neu’r ddau ohonynt a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 66(3);

(c)nad oedd gan I, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod D yn ystyried nad oedd yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(4)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi, caiff—

(a)dadwneud ei orchymyn o dan adran 66(9) drwy orchymyn, a gwneud datganiad bod y prif gontract yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18A. 67 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

68Y pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd ar ôl achos o gefnu ar gontractLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 66(11) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 67(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I20A. 68 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources