Adrannau 55 a 56 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau
148.Mae adran 55 yn darparu i reoliadau o dan y Ddeddf gael eu gwneud drwy offeryn statudol. Bydd y rhan fwyaf o reoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Yr eithriadau yw’r rheoliadau hynny a wneir o dan adrannau a nodir yn is-adran (4) y mae rhaid eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef:
y gyfres gyntaf o reoliadau i’w gwneud o dan adran 2(4) (gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);
adran 3(4) (darpariaeth ynghylch dynodi darparwyr addysg uwch eraill);
adran 4(3) (rheoliadau sy’n diwygio’r cyfnod mwyaf a nodir yn adran 4(2));
y gyfres gyntaf o reoliadau i’w gwneud o dan adran 5(3) (uchafswm y ffioedd);
adran 6(1) (darpariaeth yn ymwneud â hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch y mae rhaid ei chynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad);
adran 7(3) (y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun ffioedd a mynediad);
adran 38(2) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) – os yw’r rheoliadau yn diwygio darpariaeth yn y Ddeddf; ac
adran 58 (darpariaeth ganlyniadol a throsiannol) - ond dim ond os yw’r rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol.
149.Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.