- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Tai (Cymru) 2014, Adran 76.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.
(2)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—
(a)cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), F1...
[F2(aa)cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu]
(b)cynnig o lety addas [F3(yn Lloegr)] o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).
(3)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—
(a)cynnig o lety interim addas o dan adran 75,
(b)cynnig sector rhentu preifat, neu
(c)cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,
y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.
(4)At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—
[F4(a)os yw’n gynnig o—
(i)tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu
(ii)tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,]
(b)os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac
(c)[F5mewn perthynas â llety yn Lloegr,] mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.
(5)Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).
(6)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
(b)o dan adran 75.
(7)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
(b)o dan adran 75.
(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.
[F6(9)Yn yr adran hon—
mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);
mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).]
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 76(2)(a) wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(9)(a)(i)
F2A. 76(2)(aa) wedi ei fewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(9)(a)(ii)
F3Geiriau yn a. 76(2)(b) wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(9)(a)(iii)
F4A. 76(4)(a) wedi ei amnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(9)(b)(i)
F5Geiriau yn a. 76(4)(c) wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(9)(b)(ii)
F6A. 76(9) wedi ei amnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(9)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 76 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 27
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: