Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: PENNOD 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, PENNOD 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 3LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU TRAMWY AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR AWDURDODAU LLEOL

Parhad y cytundebLL+C

26Yn ddarostyngedig i baragraff 27 mae’r hawl i osod y cartref symudol ar y llain dramwy yn bodoli hyd nes—

(a)y daw’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb i ben, neu

(b)y terfynir y cytundeb o dan baragraff 28 neu 29,

p’un bynnag yw’r cynharaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

27(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am y cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu ei bod yn ofynnol i’r perchennog gyfyngu ar gyfnod aros cartrefi symudol ar y safle, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I4Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

TerfynuLL+C

28Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I6Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

29Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben—

(a)heb fod yn ofynnol iddo ddangos unrhyw reswm, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol, neu

(b)ar unwaith, pan fo—

(i)y meddiannydd wedi torri un neu ragor o delerau’r cytundeb, ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio a’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(ii)y perchennog o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I8Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Adennill gordaliadau gan y meddiannyddLL+C

30Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 28 neu 29, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I10Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwyddLL+C

31Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraff 32.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I12Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Hawl y perchennog i fynd i’r llainLL+C

32(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

(c)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(d)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

(4)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

(5)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I14Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C

33(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd drwy hysbysiad am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

(3)Pan fo’r perchennog, yn unol â’r cytundeb, yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) sy’n gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 34(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I16Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

34(1)Pan fo’r perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(2)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I18Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources