- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, Croes Bennawd: Cyffredinol.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn brif weithredwr ar SAC (ond nid yn gyflogai iddi).
(2)Mae Atodlen 2 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 16 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(h)
(1)Rhaid i SAC, yn y modd hwnnw y mae’n ei ystyried yn briodol, fonitro sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau.
(2)Caiff SAC ddarparu cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.
(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw gyngor a roddir iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I4A. 17(1) mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
I5A. 17(2)(3) mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(i)
I6A. 17(2)(3) mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
(1)Caniateir i’r Archwilydd Cyffredinol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd honno i—
(a)cyflogai i SAC,
(b)person sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu
(c)cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, yn gweithredu ar y cyd.
(2)Ond dim ond os yw’r cyflogai neu’r person arall wedi ei awdurdodi (neu, yn achos is-adran (1)(c), os yw’r ddau wedi eu hawdurdodi) i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gynllun a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo.
(3)Rhaid i gynllun ddisgrifio’r amodau y mae rhaid i ddirprwyaeth o dan is-adran (1) gael ei gwneud yn ddarostyngedig iddynt.
(4)Ni chaiff cyflogai neu berson arall ei awdurdodi o dan gynllun oni bai bod y cyflogai neu’r person yn cytuno i gydymffurfio â’r cod ymarfer archwilio a ddyroddir o dan adran 10(1).
(5)Caiff cynllun gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.
(6)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddiwygio cynllun ar unrhyw adeg.
(7)Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â SAC.
(8)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw, caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol gael ei harfer neu eu harfer ar y cyd gan—
(a)yr Archwilydd Cyffredinol a chyflogai i SAC,
(b)yr Archwilydd Cyffredinol a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu
(c)yr Archwilydd Cyffredinol, cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.
(9)Nid yw dirprwyaeth yn gwahardd yr Archwilydd Cyffredinol rhag gwneud unrhyw beth yn bersonol.
(10)Nid yw darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ar gyfer dirprwyo swyddogaeth, neu o dan is-adran (8) ar gyfer arfer swyddogaeth ar y cyd, yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol am y swyddogaeth honno.
(11)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth paratoi cynllun o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I8A. 18 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(j)
I9A. 18 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: