- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru. Dyma’r Cwricwlwm i Gymru. Mae adran 56 o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer asesu mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol. Mae i “cwricwlwm perthnasol” yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o’r Ddeddf.
Cafwyd cam cyntaf cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn y flwyddyn ysgol 2022 i 2023. Yna bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno yn flynyddol ar gyfer pob blwyddyn ysgol hyd nes y bydd wedi ei gyflwyno’n llawn ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2026 i 2027.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith gyfreithiol i’r trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion (heblaw am ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty) a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru (“yr asesiadau personol cenedlaethol”).
Mae’r asesiadau personol cenedlaethol yn cymryd lle’r profion darllen a rhifedd (“y profion cenedlaethol”) y rhoddir effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”).
Gwnaeth Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Dirymu”) ddarpariaeth drosiannol fel bod Gorchymyn 2013 yn parhau i weithio gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn ystod y cyfnod y mae’n cael ei gyflwyno. Mae’r Rheoliadau Dirymu yn dirymu Gorchymyn 2013 ar 1 Medi 2024.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen yn Saesneg. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen yn Gymraeg. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Rhifedd.
Mae’r asesiadau personol cenedlaethol yn cael eu sefyll ar-lein ac yn asesu’r un sgiliau â’r profion cenedlaethol. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau o ran y ffordd y bydd yr asesiadau personol cenedlaethol yn cael eu rhoi o gymharu â’r ffordd y mae’r profion cenedlaethol wedi cael eu rhoi—
(a)nid yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys gofyniad i’r pennaeth roi’r asesiadau personol yn unol ag amserlen a bennir gan Weinidogion Cymru. Yn hytrach, caiff y pennaeth benderfynu pryd yn y flwyddyn ysgol y bydd disgyblion yn sefyll yr asesiadau personol cenedlaethol,
(b)yn wahanol i Orchymyn 2013 mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod rhaid i’r pennaeth ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion sefyll yr asesiadau personol cenedlaethol o leiaf unwaith mewn blwyddyn ysgol. Felly, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ddisgybl sefyll yr asesiadau personol cenedlaethol fwy nag unwaith mewn blwyddyn ysgol,
(c)nid yw’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth lofnodi datganiad i’r perwyl bod yr asesiadau personol cenedlaethol wedi eu rhoi yn unol â darpariaethau erthygl 6 o Orchymyn 2013, ond maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth eu rhoi yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC,
(d)nid yw’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol fonitro gweinyddu’r asesiadau personol cenedlaethol, ac
(e)nid yw’r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymchwilio i unrhyw fater a atgyfeirir atynt o ganlyniad i unrhyw fonitro ar yr asesiadau personol cenedlaethol nac i gywiro canlyniadau fel y bo’n briodol.
Mae paragraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Darparu Gwybodaeth”) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ddarparu sylwadau cryno am ganlyniadau’r asesiadau a gynhelir o dan Orchymyn 2013. O ganlyniad i ddirymu Gorchymyn 2013, mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi cyfeiriad at y Rheoliadau hyn yn lle cyfeiriad at Orchymyn 2013 ym mharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Darparu Gwybodaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: