- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf 1996;
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf 2018;
mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996(1);
mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996(2);
ystyr “cais” (“application”) yw cais i’r awdurdod cofrestru i gofrestru ysgol annibynnol, a wneir gan y perchennog yn unol ag adran 160(1)(b) o Ddeddf 2002;
mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir yn adran 10 o Ddeddf 2018;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational provision” yn adran 312 o Ddeddf 1996.
mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir yn adran 3 o Ddeddf 2018;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);
ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf yr Heddlu 1997(4);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(5);
ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(6);
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3(1) o Ddeddf 1996(7);
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr o ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3)(8) o Ddeddf 2002;
ystyr “gwasanaeth diweddaru’r GDG” (“DBS up-date service”) yw’r gwasanaeth a weithredir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaru berthnasol o fewn yr ystyr a roddir i “up-date information” yn adran 116A(8)(b)(i)(9) neu 116A(8)(c)(i) o Ddeddf 1997;
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579(1)(10) o Ddeddf 1996;
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003(11);
mae i “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“looked after by a local authority”) yr ystyr a roddir yn adran 74(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(12) neu, yn ôl y digwydd, yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(13);
ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B(1)(14) o Ddeddf 1997, sy’n cynnwys, mewn unrhyw achosion a ragnodir o bryd i’w gilydd o dan adran 113BA(1) o’r Ddeddf honno, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant;
mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996(15);
ystyr “ysgol annibynnol gofrestredig” (“registered independent school”) yw ysgol annibynnol y mae ei henw wedi ei gofnodi yn y gofrestr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson a gyflogir mewn ysgol annibynnol yn gyfeiriad at berson—
(a)sy’n darparu addysg mewn ysgol annibynnol;
(b)sy’n cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol, neu
(c)sy’n cynnal gwaith—
(i)sy’n dod â’r person hwnnw i gysylltiad yn rheolaidd â phlant sy’n ddisgyblion yn yr ysgol annibynnol, a
(ii)sy’n cael ei gyflawni ar gais neu gyda chydsyniad perchennog ysgol annibynnol (pa un ai o dan gontract ai peidio).
(3) At ddibenion paragraff 23(d) o’r Atodlen, nid yw tystysgrif GDG neu wiriad gwasanaeth diweddaru’r GDG ond yn berthnasol pan fo unigolyn yn cymryd rhan, neu pan fydd yn cymryd rhan, mewn—
(a)gweithgaredd rheoleiddiedig o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006, neu
(b)gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn i adran 64 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 ddod i rym.
Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan erthygl 3(1) a (2)(b) o O.S. 2010/1158.
Mewnosodwyd y diffiniad o “school year” gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 43 o Atodlen 7 iddi.
Diwygiwyd adran 3(1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi.
Diwygiwyd adran 158(3) gan adran 169(1) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) a pharagraffau 13 a 17(b) o Atodlen 1 iddi.
Mewnosodwyd adran 116A gan adran 83 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9) ac fe’i diwygiwyd gan erthyglau 36 a 37(g) o Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Trosglwyddo Swyddogaethau i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) 2012 (O.S. 2012/3006).
Diwygiwyd y diffiniad o “proprietor” gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 183(a)(iii) o Atodlen 30 iddi. Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 22(1) gan reoliadau 55 a 69(a) o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413) (Cy. 131).
Mewnosodwyd adran 113B yn Neddf yr Heddlu 1997 (p. 50) gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15). Diwygiwyd adran 113B(1) gan erthyglau 36 a 37(c) o Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Trosglwyddo Swyddogaethau i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) 2012 (O.S. 2012/3006), gan adrannau 97(2) a 112(2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26) a Rhan 8 o Atodlen 8 iddi, a chan adran 80(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
Amnewidiwyd adran 463 gan adran 172 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 26 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi, a chan O.S. 2010/1158 ac O.S. 2016/463 (Cy. 131). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: