Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24 a 25 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”), wedi eu hymgorffori mewn contractau safonol â chymorth fel telerau atodol.

Y sefyllfa ddiofyn yw bod darpariaethau atodol yn cael eu hymgorffori fel telerau atodol contract meddiannaeth. Fodd bynnag, wrth lunio’r contract meddiannaeth, caiff y partïon gytuno bod darpariaeth atodol wedi ei haddasu neu nad yw wedi ei chynnwys yn y contract meddiannaeth.

Ni chaniateir i addasiad neu hepgoriad wneud y contract meddiannaeth yn anghydnaws ag unrhyw un o delerau sylfaenol y contract.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn cynnal masnach neu fusnes yn yr annedd.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn caniatáu i letywyr fyw yn yr annedd.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ddarparu rhestr eiddo i ddeiliad y contract, o fewn cyfnod amser penodedig. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi deiliad y contract i wneud sylwadau ar y rhestr eiddo, a sut y caiff y landlord ymateb i’r sylwadau hynny.

Mae rheoliad 7 yn darparu nad yw deiliad y contract yn atebol am rent ar gyfer pob diwrnod (neu ran o ddiwrnod) pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Mae rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 94 o’r Ddeddf (Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) yn rhagnodi materion ac amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu, at ddibenion adran 91(1) o’r Ddeddf, a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Os na chydymffurfir â’r materion a’r amgylchiadau hynny, caiff yr annedd ei thrin fe pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ddarparu, o fewn 14 o ddiwrnodau i unrhyw gais gan ddeiliad y contract, dderbynneb ysgrifenedig am rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd gan ddeiliad y contract.

Mae rheoliad 9 yn nodi sut y caiff deiliad contract newid darparwyr cyfleustodau i’r annedd.

Mae rheoliad 10 yn gosod nifer o ofynion ar ddeiliad y contract mewn perthynas â gofalu am yr annedd, gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ac unrhyw eitemau a restrir yn y rhestr eiddo. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn symud o’r annedd unrhyw osodiadau a ffitiadau neu unrhyw eitemau a restrir yn y rhestr eiddo. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gadw’r annedd wedi ei haddurno mewn cyflwr rhesymol. Mae hefyd yn gwahardd deiliad y contract rhag cadw unrhyw beth yn yr annedd a fyddai’n peri risg iechyd a diogelwch.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract adrodd i’r landlord am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad yn yr annedd y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol fod y landlord yn gyfrifol amdano. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract wneud yr atgyweiriadau hynny y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol nad yw’r landlord yn gyfrifol amdanynt.

Mae rheoliad 12 yn rhoi hawl i’r landlord, ar ôl rhoi rhybudd o 24 awr, fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben gwneud yr atgyweiriadau hynny yr oedd deiliad y contract yn gyfrifol amdanynt nas gwnaed.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth i ymdrin ag argyfwng. Mae’n nodi y caiff y landlord fynd i’r annedd mewn argyfwng os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad iddo.

Mae hawl y landlord i fynd i’r annedd a ddarperir gan reoliadau 12 a 13 yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn y Ddeddf y mae gan y landlord yr hawl i fynd i’r annedd oddi tanynt.

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gadw’r annedd yn ddiogel ac yn nodi y caiff deiliad y contract newid y cloeon yn yr annedd, ar yr amod nad yw’r newidiadau yn darparu llai o ddiogelwch, a bod copïau o unrhyw allweddi newydd yn cael eu rhoi i’r landlord.

Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn gwneud addasiadau i’r annedd ac yn diffinio “addasiad” at ddibenion y rheoliad hwn.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract, pan fydd y contract meddiannaeth yn dod i ben, symud o’r annedd ei holl eiddo ac eiddo unrhyw feddianwyr a ganiateir. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol dychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r landlord i’r safle lle yr oedd ar ddechrau’r contract meddiannaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol dychwelyd allweddi.

Mae rheoliad 17 yn rhagnodi’r cyfnod rhybudd i’w roi i’r landlord gan gyd-ddeiliad contract sy’n dymuno tynnu’n ôl o’r contract meddiannaeth.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ad-dalu (o fewn cyfnod rhesymol) i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu unrhyw gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources