- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol (“Rheoliad 2019/1793”).
Mae rheoliad 2 yn amnewid, gyda diwygiadau, Atodiadau 1, 2 a 2a i Reoliad 2019/1793. Amnewidir Atodiad 1 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion. Amnewidir Atodiadau 2 a 2a drwy ddefnyddio pwerau yn Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ac Erthygl 54(4)(b) o Reoliad (EU) 2017/625.
Mae Atodiad 1 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin neu mewn safleoedd rheoli ym Mhrydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 1 fel a ganlyn.
Mae amlder y gwiriadau ar bupur du o Frasil (ar gyfer Salmonela) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.
Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Frasil (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Frasil (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Mae’r cofnod ar gyfer aeron goji o Tsieina (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei ddileu.
Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Tsieina (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1). Mae amlder y gwiriadau wedi ei leihau o 20% i 10%.
Mae’r cofnod ar gyfer hadau sesamwm o Ethiopia (ar gyfer Salmonela) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1).
Mae amlder y gwiriadau ar gnau cyll a chynhyrchion cysylltiedig o Georgia (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei leihau o 50% i 20%.
Mae amlder y gwiriadau ar ocra o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.
Mae’r cofnod ar gyfer pupurau o rywogaethau’r Capsicum (pupurau melys neu bupurau heblaw pupurau melys) o Sri Lanka (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1).
Mae amlder y gwiriadau ar jacffrwyth o Falaysia (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.
Cofnod newydd ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Wlad Thai (ar gyfer Salmonela). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Mae amlder y gwiriadau ar bupurau o rywogaethau’r Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Wlad Thai (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.
Mae’r cofnod ar gyfer grawnwin sych (gan gynnwys grawnwin sych sydd wedi eu torri neu eu crawennu i ffurfio past heb driniaeth bellach) o Dwrci (ar gyfer Ocratocsin A) wedi ei ddileu.
Mae’r cofnod ar gyfer cnau cyll a chynhyrchion cysylltiedig o Dwrci (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 5%.
Cofnod newydd ar gyfer lemonau o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Mae amlder y gwiriadau ar gyfer mandarins (gan gynnwys tanjerîns a satswmas), clementinau, wilkings a hybridiau sitrws tebyg o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 5% i 20%.
Mae amlder y gwiriadau ar orenau o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.
Mae amlder y gwiriadau ar bupurau melys ( Capsicum annum) o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.
Cofnod newydd ar gyfer pupurau o rywogaethau’r Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Mae amlder y gwiriadau ar bupurau o rywogaethau’r Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Uganda (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.
Mae’r cofnod ar gyfer cnau pistasio a chynhyrchion cysylltiedig o’r Unol Daleithiau (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu.
Mae Atodiad 2, Tabl 1, yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae amodau arbennig wedi eu rhagnodi ar eu cyfer sy’n rheoli eu mynediad i Brydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 2, Tabl 1, fel a ganlyn.
Cofnod newydd ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Fangladesh (ar gyfer Salmonela). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Frasil (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1).
Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Tsieina (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1).
Mae’r cofnod ar gyfer hadau sesamwm o Ethiopia (ar gyfer Salmonela) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1 (o Atodiad 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 50%.
Mae’r cofnod ar gyfer dail betel ( Piper betle) o India wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Mae cwmpas y cofnod wedi ei estyn i gynnwys bwyd sy’n cynnwys dail betel.
Mae’r is-raniad TARIC wedi ei ddileu.
Mae amlder y gwiriadau ar gnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o India (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei gynyddu o 10% i 50%.
Mae’r is-raniad TARIC ar gyfer gwm guar o India wedi ei ddileu.
Mae’r cofnod ar gyfer pupurau o rywogaethau’r Capsicum (pupurau melys neu bupurau heblaw pupurau melys) o Sri Lanka (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1 (o Atodiad 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 50%.
Mae amlder y gwiriadau ar gyfer hadau sesamwm o Sudan (ar gyfer Salmonela) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.
Mae’r cofnod ar gyfer cnau cyll a chynhyrchion cysylltiedig o Dwrci (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1).
Mae amlder y gwiriadau ar ddail gwinwydd o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.
Mae Atodiad 2, Tabl 2, yn cynnwys rhestr o fwyd cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw fwyd a restrir yn Nhabl 1 yn Atodiad 2 oherwydd y risg o halogi gan afflatocsinau mewn swm sy’n fwy nag 20% o naill ai cynnyrch unigol neu swm y cynhyrchion hynny. Y newid a wneir i Dabl 2 yn Atodiad 2 yw ychwanegu cofnod newydd ar gyfer cymysgeddau o sbeisys.
Mae Atodiad 2a yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd wedi eu gwahardd rhag dod i Brydain Fawr. Mae’r cofnod yn Atodiad 2a ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Fangladesh (ar gyfer Salmonela) wedi ei ddileu (ond gweler y cofnod newydd ar gyfer hyn yn Atodiad 2, Tabl 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: