- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
40. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 41 i 43.
41. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—
“mae i “Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” (“Higher Education Classification of Subjects”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 81(29);”;
“mae i “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” (“Common Aggregation Hierarchy”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 81(29);”.
42. Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—
(a)yn lle paragraff (28) rhodder—
“(28) Mae cwrs wedi ei bennu at ddiben paragraff (27)—
(a)os yw’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni;
(b)os yw’n gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 7; neu
(c)os yw’r cwrs wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.
| Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
| Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin | Cod a label Pynciau a eithrir |
| Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02) | |
| Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03) | |
| Seicoleg (CAH04) | |
| Milfeddygaeth (CAH05) | |
| Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06) | |
| Y gwyddorau ffisegol (CAH07) | (100392) Gwyddoniaeth gymhwysol (100390) Gwyddoniaeth gyffredinol (100391) Y gwyddorau naturiol |
| Y gwyddorau mathemategol (CAH09) | |
| Peirianneg a thechnoleg (CAH10) | |
| Cyfrifiadura (CAH11) ”; |
(b)yn lle paragraff (29) rhodder—
“(29) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(1) ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.”
43. Yn Atodlen 7 (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—
(a)yn lle’r cyfeiriad at “paragraff (28)(c) o reoliad 81” rhodder “paragraff (28)(b) o reoliad 81”;
(b)ar ôl y cyfeiriad at “paragraff (28)(c) o reoliad 81.” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (29) o reoliad 81.”;
(c)yn lle Tabl 1 rhodder—
| “Cod DPAU | Label DPAU |
|---|---|
| 100706 | Gwallt a cholur |
| 101374 | Gwasanaethau trin gwallt |
| 100131 | Radioleg |
| 100456 | Astudiaethau plentyndod |
| 100302 | Hanes |
| 100337 | Athroniaeth |
| 100621 | Astudiaethau rhywedd |
| 101233 | Astudiaethau diwylliannol |
| 100986 | Rheoli adnoddau dŵr |
| 100807 | Rheoli treftadaeth |
| 101091 | Astudiaethau cwaternaidd |
| 101078 | Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol |
| 101079 | Hydroleg |
| 101072 | Rheoli llygredd |
| 100381 | Y gwyddorau amgylcheddol |
| 101070 | Newid hinsawdd |
| 101067 | Priddeg |
| 101394 | Rhewlifeg a systemau cryosfferig |
| 100408 | Daearyddiaeth amgylcheddol |
| 101352 | Bioddaearyddiaeth |
| 101065 | Daearyddiaeth arforol |
| 101064 | Geomorffoleg |
| 100410 | Daearyddiaeth ffisegol |
| 101058 | Y gwyddorau mapio |
| 101056 | Synhwyro o bell |
| 100369 | Systemau gwybodaeth ddaearyddol |
| 100052 | Ergonomeg |
| 101104 | Daeareg gymhwysol |
| 101351 | Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd |
| 100379 | Gwyddor hinsawdd |
| 100394 | Gwyddorau’r ddaear |
| 101106 | Daeareg beirianyddol |
| 100380 | Gwyddorau daear amgylcheddol |
| 101093 | Daeareg archwilio |
| 101084 | Geoffiseg archwilio |
| 101083 | Geocemeg |
| 101082 | Peryglon daearegol |
| 101086 | Eigioneg ddaearegol |
| 100395 | Daeareg |
| 100396 | Geoffiseg |
| 101089 | Hydroddaeareg |
| 101073 | Hydrograffeg |
| 100418 | Gwyddorau’r môr |
| 100382 | Meteoroleg |
| 100421 | Gwyddorau eigion |
| 100398 | Palaeontoleg |
| 101105 | Daeareg betrolewm |
| 101081 | Fwlcanoleg”. |
44. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 45 i 47.
45. Yn rheoliad 25 (myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion)—
(a)ym mharagraff (2), yn lle Achos 3 rhodder—
“Achos 3
Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—
(a)yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,
(b)yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A, neu
(c)wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.
| Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
| Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin | Cod a label Pynciau a eithrir |
| Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02) | |
| Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03) | |
| Seicoleg (CAH04) | |
| Milfeddygaeth (CAH05) | |
| Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06) | |
| Y gwyddorau ffisegol (CAH07) | (100392) Gwyddoniaeth gymhwysol (100390) Gwyddoniaeth gyffredinol (100391) Y gwyddorau naturiol |
| Y gwyddorau mathemategol (CAH09) | |
| Peirianneg a thechnoleg (CAH10) | |
| Cyfrifiadura (CAH11) ”; |
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn Achos 3, ystyr “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(2) ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.”
46. Yn Atodlen 5A (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—
(a)yn lle’r cyfeiriad at “is-baragraff (c) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)” rhodder “is-baragraff (b) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)”;
(b)ar ôl y cyfeiriad at “Achos 3 yn rheoliad 25(2).” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (3) o reoliad 25.”;
(c)yn lle Tabl 15A rhodder—
| Cod DPAU | Label DPAU |
|---|---|
| 100706 | Gwallt a cholur |
| 101374 | Gwasanaethau trin gwallt |
| 100131 | Radioleg |
| 100456 | Astudiaethau plentyndod |
| 100302 | Hanes |
| 100337 | Athroniaeth |
| 100621 | Astudiaethau rhywedd |
| 101233 | Astudiaethau diwylliannol |
| 100986 | Rheoli adnoddau dŵr |
| 100807 | Rheoli treftadaeth |
| 101091 | Astudiaethau cwaternaidd |
| 101078 | Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol |
| 101079 | Hydroleg |
| 101072 | Rheoli llygredd |
| 100381 | Y gwyddorau amgylcheddol |
| 101070 | Newid hinsawdd |
| 101067 | Priddeg |
| 101394 | Rhewlifeg a systemau cryosfferig |
| 100408 | Daearyddiaeth amgylcheddol |
| 101352 | Bioddaearyddiaeth |
| 101065 | Daearyddiaeth arforol |
| 101064 | Geomorffoleg |
| 100410 | Daearyddiaeth ffisegol |
| 101058 | Y gwyddorau mapio |
| 101056 | Synhwyro o bell |
| 100369 | Systemau gwybodaeth ddaearyddol |
| 100052 | Ergonomeg |
| 101104 | Daeareg gymhwysol |
| 101351 | Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd |
| 100379 | Gwyddor hinsawdd |
| 100394 | Gwyddorau’r ddaear |
| 101106 | Daeareg beirianyddol |
| 100380 | Gwyddorau daear amgylcheddol |
| 101093 | Daeareg archwilio |
| 101084 | Geoffiseg archwilio |
| 101083 | Geocemeg |
| 101082 | Peryglon daearegol |
| 101086 | Eigioneg ddaearegol |
| 100395 | Daeareg |
| 100396 | Geoffiseg |
| 101089 | Hydroddaeareg |
| 101073 | Hydrograffeg |
| 100418 | Gwyddorau’r môr |
| 100382 | Meteoroleg |
| 100421 | Gwyddorau eigion |
| 100398 | Palaeontoleg |
| 101105 | Daeareg betrolewm |
| 101081 | Fwlcanoleg”. |
47. Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—
| ““y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU)” | Rheoliad 25(3)”; |
| ““Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” | Rheoliad 25(3)”. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: