Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 399 (Cy. 128)

Cefn Gwlad, Cymru

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed

24 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

26 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Mai 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94 a 95(5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1).

Enwi, cychwyn, dod i ben a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mai 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6 a’r rheoliad hwn, yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2021.

(3Mae rheoliad 6 a’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar 4 Awst 2022.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2001” yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001(2).

Cyfarfodydd a gynhelir cyn diwedd 31 Rhagfyr 2021

2.  Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 2—

Mynychu cyfarfodydd o bell

2A.(1) Caniateir i gyfarfod o fforwm neu bwyllgor o fforwm gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod neu’n bresennol mewn cyfarfod yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir ym mharagraff (1), mynychu drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.

3.  Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 7—

Darpariaethau ar gyfer penodiadau dros dro

7A.(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn ymwneud â phenodiad a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2021.

(2) Yn rheoliad 7(a) and (b) o Reoliadau 2001”., mae “rhaid i” i’w ddarllen fel “caiff”.

(3) Os nad yw awdurdod penodi yn arfer y naill neu’r llall o’r pwerau yn rheoliadau 7(a) a (b), neu’r ddau ohonynt, mae rheoliad 4(3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “naw mis i ben sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf aelodaeth y person” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm ”.

4.  Mae rheoliad 10(2)(c) (papurau ar gyfer cyfarfodydd) i’w ddarllen, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn diwedd 31 Rhagfyr 2021, fel pe bai’r geiriau “yn cael eu hanfon drwy’r post at bob aelod o’r fforwm yn y cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod; neu’n cael eu hanfon ar ffurf electronig at bob aelod o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “yn cael eu cyflwyno” hyd at y diwedd.

5.  Mae rheoliad 12 (ethol cadeirydd a dirprwy gadeirydd) i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (2), “gan ddefnyddio unrhyw weithdrefn y mae’r fforwm yn penderfynu arni” wedi ei roi yn lle “drwy bleidlais gyfrinachol”;

(b)paragraffau (4) i (6) wedi eu hepgor.

6.  Mae rheoliad 15 (cynnal cyfarfodydd) i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (2), y geiriau “ac os yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, caiff y person sy’n llywyddu, os yw eitem benodol o fusnes sydd i’w hystyried yn y cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i’r cyhoedd gael ei wahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno, ddyfarnu bod y cyhoedd i’w wahardd” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “a rhaid iddynt fod yn agored i’r cyhoedd” hyd at y diwedd;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—

(2A) Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw’r cyfeiriadau at y lle y cynhelir cyfarfodydd wedi eu cyfyngu i un lleoliad ffisegol.;

(c)ym mharagraff (10), “, neu drwy unrhyw ddull pleidleisio arall y mae’r fforwm yn penderfynu arno” wedi ei fewnosod ar ôl “drwy i’r aelodau sy’n bresennol godi llaw”;

(d)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (10)—

(11) Os yw’n angenrheidiol cynnal pleidlais ar gwestiwn y dull pleidleisio y mae’r fforwm i’w ddefnyddio, mae’r person sy’n llywyddu i benderfynu ar y dull o bleidleisio ar y cwestiwn hwnnw.

Aelodau yn methu â mynychu cyfarfodydd

7.  Mae rheoliad 14 o Reoliadau 2001 (terfynu aelodaeth o fforymau) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—

(1A) Mewn perthynas ag unrhyw aelod penodol o fforwm, nid yw’r cyfnod o 12 mis a bennir ym mharagraff (1)(e) i gynnwys y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 yn dod i rym (“Diwrnod Un”), a

(b)sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm.

Adroddiadau blynyddol gan awdurdodau penodi

8.  Mae rheoliad 16 o Reoliadau 2001 (adroddiadau blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—

(3) Rhaid i’r awdurdod penodi gyhoeddi adroddiad blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Ebrill 2021 a chyn diwedd 31 Rhagfyr 2021 ar ei wefan a rhaid iddo hefyd fod ar gael i edrych arno yn swyddfa’r awdurdod penodi yn ystod oriau swyddfa arferol.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau nad ydynt yn rhai testunol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) er mwyn sicrhau bod Fforymau Mynediad Lleol yn gallu parhau i gyfarfod a gwneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod o amhariad a achosir gan bandemig y coronafeirws.

Ac eithrio rheoliadau 1 a 6, mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2021.

Mae rheoliadau 1 a 6 yn peidio â chael effaith ar 4 Awst 2022.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn galluogi Fforymau Mynediad Lleol i gynnal cyfarfodydd o bell yn hytrach na gorfod eu cynnal mewn un lleoliad ffisegol.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodiadau dros dro i Fforymau Mynediad Lleol, drwy roi’r pŵer i’r awdurdodau penodi ddewis peidio ag arfer y gofynion yn rheoliadau 7(a) a (b) mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn dod i ben ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2021. Mae hefyd yn darparu na chaniateir gwneud y penodiadau hynny ond am gyfnod o hyd at 9 mis o ddyddiad y penodiad. Diben y ddarpariaeth hon yw caniatáu i unrhyw aelodau o Fforymau Mynediad Lleol y mae cyfnod eu penodiad wedi dod i ben yn ddiweddar gael eu hailbenodi yn gyflym ac mewn modd syml os nad yw’n bosibl cynnal cylch recriwtio llawn ar hyn o bryd.

Mae rheoliad 4 yn caniatáu i bapurau ar gyfer cyfarfodydd gael eu hanfon ar ffurf electronig.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu ethol y Cadeirydd neu’r Dirprwy Gadeirydd drwy ddull ac eithrio drwy bleidlais gyfrinachol, os nad yw hynny’n opsiwn sydd ar gael iddynt, ac yn caniatáu i’r Fforymau Mynediad Lleol benderfynu ar eu gweithdrefn eu hunain.

Mae rheoliad 6 yn caniatáu i’r person sy’n llywyddu wahardd y cyhoedd o eitem benodol o fusnes os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

Mae rheoliad 7 yn darparu, at ddiben cyfrifo’r cyfnod o 12 mis pan fydd aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cyn y caniateir terfynu ei aelodaeth, bod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ac sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm i’w ddiystyru.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau blynyddol a gymeradwyir ar ôl 30 Ebrill 2021 a chyn 31 Rhagfyr 2021 gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod penodi, a’u bod hefyd ar gael i edrych arnynt yn swyddfa’r awdurdod penodi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2000 p. 37. Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

O.S. 2001/4002 (Cy. 330), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/723 (Cy. 161); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources