- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 60M(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig, y mae Rhan 6 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, lunio cynllun datblygu strategol (“CDS”) ar gyfer ei ardal.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio a diwygio CDS ac ar gyfer materion cysylltiedig.
Mae Rhan 1 yn ymdrin â materion cyffredinol, gan gynnwys cymhwyso’r Rheoliadau hyn, dehongli ymadroddion amrywiol a defnyddio cyfathrebiadau electronig.
Mae Rhan 2 yn ymdrin â llunio a diwygio CDS, ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion gan gynnwys—
darparu dogfennaeth a dynodi’r cyrff ymgynghori (Pennod 1),
y cytundeb cyflawni (Pennod 2),
ffurf a chynnwys CDS a materion cysylltiedig (Pennod 3),
y weithdrefn cyn adneuo, sy’n ymwneud â llunio cynigion mewn cysylltiad ag CDS ac ymgynghori ac ymgysylltu mewn cysylltiad â’r cynigion hynny (Pennod 4),
y weithdrefn adneuo, y mae rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig adneuo ei gynigion ar gyfer CDS yn unol â hi at ddiben ymgynghori pellach (Pennod 5),
yr archwiliad annibynnol o’r CDS gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru (Pennod 6),
pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd (Pennod 7),
tynnu CDS yn ôl (Pennod 8), a
mabwysiadu CDS gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru (Pennod 9).
Mae Rhan 3 yn ymdrin â’r camau y mae rhaid eu cymryd ar ôl i CDS gael ei ddirymu.
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu CDS bob chwe mlynedd.
Mae Rhan 5 yn ymdrin â chynnwys adroddiad monitro blynyddol a’i gyhoeddi.
Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer gofynion o ran argaeledd dogfennau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: