Search Legislation

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)

Mae’r Rheolau hyn, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, yn nodi’r rheolau (y cyfeirir atynt yn y nodiadau fel “y Rheolau Cynnal Etholiad”) ar gyfer cynnal etholiadau cynghorwyr i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (“prif gynghorau”) yng Nghymru.

Mae’r Rheolau hyn yn disodli, mewn perthynas â Chymru, Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 (“Rheolau 2006”) a oedd yn gymwys i etholiadau prif gynghorau yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y Rheolau hyn yn gymwys i etholiadau i brif gynghorau yng Nghymru a gynhelir ar 5 Mai 2022 ac ar ôl hynny.

Y Rheolau hyn yw’r rhai cyntaf i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal etholiadau prif gynghorau yng Nghymru. Gan hynny, dyma’r rheolau cyntaf o’u math i fod yn gymwys i Gymru yn unig a nhw yw’r cyntaf i gael eu gwneud yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer etholiadau prif gynghorau.

Wrth wneud y Rheolau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi diweddaru’r iaith drwyddi draw ac wedi ad-drefnu rheolau penodol i wella eglurder a hygyrchedd.

Rheolau 1 i 5

Mae rheolau 1 a 2 yn nodi enw a dyddiad cychwyn y Rheolau ac yn gwneud darpariaeth drosiannol fel y bydd unrhyw etholiadau i brif gynghorau yng Nghymru a gynhelir ar ôl i’r Rheolau hyn ddod i rym, ond cyn 5 Mai 2022, yn cael eu cynnal yn unol â Rheolau 2006.

Mae rheol 3 yn darparu diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Rheolau hyn, gan gynnwys “diwrnod eithriedig” ac “etholiad perthnasol”.

Mae adran 22(1) a (3) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn cael yr effaith bod gan ymgeisydd mewn etholiad i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru nad yw’n sefyll i’w ethol yn enw plaid gofrestredig ddewis rhwng peidio â chynnwys disgrifiad yn ei bapur enwebu neu gynnwys y gair “Independent”. Mae rheol 4, a wneir o dan y pwerau a roddir gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn ymestyn dewis yr ymgeisydd drwy ganiatáu’r defnydd o’r gair “Annibynnol” yn lle, neu yn ogystal â’r gair “Independent”. Adlewyrchir y dewis estynedig hwn hefyd yn rheol 6 o Atodlenni 1 a 2.

Mae rheol 5 yn cyflwyno Atodlen 1 (sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cynnal etholiad prif gyngor pan nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal gyda phleidlais mewn etholiad arall) ac Atodlen 2 (sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cynnal etholiad prif gyngor pan fo’r bleidlais yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol).

Mae rheol 5 hefyd yn darparu, pan fo rheol yn yr Atodlenni hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) y dylid cyhoeddi’r ddogfen ar-lein ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at gynnwys y ddogfen.

Y Rheolau Cynnal Etholiad (Atodlenni 1 a 2)

Oni nodir yn wahanol, mae’r nodiadau esboniadol yn gyffredin i’r darpariaethau yn Atodlenni 1 a 2.

Rhannau 1 a 2

Mae Rhan 1 yn nodi’r dyddiadau cau ar gyfer cwblhau neu gyflawni gweithredoedd allweddol penodedig mewn etholiad. Mae diwrnodau eithriedig, fel y’u diffinnir yn rheol 3(1) o’r Rheolau hyn, i’w hanwybyddu wrth gyfrifo’r cyfnodau a nodir yn yr amserlen.

Mae Rhan 2 yn nodi’r trefniadau y mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau eu gwneud i roi hysbysiad o’r etholiad ac ynglŷn â sicrhau ffurflenni enwebu a’u cyflwyno. Yn benodol, mae’n nodi’r gofynion ynglŷn â hysbysiad yr etholiad, cynnwys ffurflenni enwebu a phenderfynu a yw nifer yr unigolion a enwebwyd mewn modd dilys yn ddigonol i fwrw ymlaen a chynnal pleidlais.

Rhaid i hysbysiad yr etholiad gynnwys manylion penodol am yr etholiad fel y’u nodir yn rheol 3. Er enghraifft, mae rheol 3(5) a (6) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau gynnwys datganiad danfon electronig yn yr hysbysiad gan ddarparu y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost, drwy eu cyflwyno ar-lein neu drwy’r naill neu’r llall o’r dulliau hyn (yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad).

Mae rheol 5 yn darparu ar gyfer hunan-enwebu; rhaid i ymgeiswyr enwebu eu hunain drwy gwblhau a llofnodi’r papur enwebu ym mhresenoldeb tyst. Nid oes angen i’r ymgeisydd ddefnyddio papur enwebu a gyflenwyd gan y swyddog canlyniadau neu a sicrhawyd ar-lein, ond mae’n rhaid iddo ddarparu’r holl wybodaeth fel y’i nodir ar ffurflen y papur enwebu.

Mae rheol 5(3)(a) yn ei gwneud yn ofynnol bod enwau llawn yr ymgeisydd yn cael eu datgan yn y papur enwebu. Caiff yr ymgeisydd hefyd roi ei enwau a ddefnyddir yn gyffredin (gan gynnwys pan fo’r enwau hynny yn gwahaniaethu o’i enwau llawn oherwydd eu bod mewn trefn wahanol yn unig, yn cynnwys rhai o’r enwau hynny yn unig neu’n cynnwys enwau ychwanegol).

Mae rheol 5(3)(b) yn caniatáu i ymgeisydd gynnwys disgrifiad yn ei bapur enwebu, a fydd, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, yn cael ei gynnwys yn y papur pleidleisio gyferbyn â’i enw. Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys i ddisgrifiadau:

  • Rheol 6 – sy’n nodi’r gofynion cyffredinol ynghylch defnyddio disgrifiad;

  • Rheol 7 – sy’n caniatáu i ymgeisydd ychwanegu’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at enw plaid gofrestredig neu ddisgrifiad cofrestredig, pan nad yw’r enw neu’r disgrifiad dan sylw eisoes yn cynnwys disgrifydd tiriogaethol. Caniateir i ymgeisydd ddefnyddio’r gair “Wales” neu “Welsh” o flaen yr enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig a ganiateir neu caiff ddefnyddio’r gair “Cymru” neu “Cymreig” ar ôl yr enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig a ganiateir. Rhaid i ymgeisydd beidio â defnyddio’r disgrifyddion tiriogaethol a ganiateir o dan reol 7 os yw un o’r geiriau eisoes yn rhan o’r enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig neu os yw’r ymgeisydd yn defnyddio’r gair “Independent” neu “Annibynnol” neu’r ddau air hynny fel ei ddisgrifiad.

Mae rheol 5(3)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys, yn ei bapur enwebu, ddatganiad o aelodaeth plaid.

  • Mae rheol 8 yn nodi’r gofynion ynglŷn â’r datganiad o aelodaeth plaid. Rhaid i’r ymgeisydd ddatgan ar ei bapur enwebu a yw’n aelod, neu a yw wedi bod yn aelod, o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig yn ystod y 12 mis diwethaf (“y cyfnod perthnasol”), ond nad yw’n blaid y maent yn ceisio sefyll ar ei rhan yn yr etholiad dan sylw. Y “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda’r diwrnod y cyhoeddwyd hysbysiad yr etholiad. Os bydd ymgeisydd yn methu’n fwriadol â darparu’r wybodaeth hon bydd yn euog o arfer lwgr.

Mae rheol 5(3)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys y datganiadau perthnasol a nodir ar y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

Mae rheol 5(6) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys gyda’i bapur enwebu ffurflen cyfeiriad cartref ar wahân fel y’i nodir yn rheol 9. Nodir y gofynion o ran darparu cyfeiriad sy’n sefydlu cymhwyster yr ymgeisydd i sefyll i’w ethol yn y brif ardal dan sylw yn y tabl yn rheol 9(3).

  • Mae rheol 9(6) yn caniatáu i ymgeisydd ddatgan nad yw am i’w gyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi. Os bydd ymgeisydd yn gwneud datganiad o’r fath, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan: os yw cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, yr “ardal berthnasol”, a ddiffinnir yn rheol 9(8); neu os yw’r cyfeiriad cartref y tu allan i’r Deyrnas Unedig, y wlad y mae wedi ei lleoli ynddi.

Mae’r swyddog canlyniadau yn gyfrifol am sicrhau, pan fo ymgeisydd wedi nodi nad yw’r cyfeiriad cartref i’w gyhoeddi, fod dymuniadau’r ymgeisydd yn cael eu rhoi ar waith.

Mae rheol 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd. Wrth wneud hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys:

  • enwau a disgrifiadau’r personau sy’n dal wedi eu henwebu;

  • yr wybodaeth am gyfeiriad cartref pob ymgeisydd (yn y modd y gofynnir amdano gan yr ymgeisydd – gweler rheol 9); a’r

  • wybodaeth a gynhwysir yn y datganiadau o aelodaeth plaid wleidyddol, fel y bo’n briodol (gweler rheol 8).

Rhaid i’r datganiad gynnwys hefyd unrhyw bersonau eraill sydd wedi eu henwebu ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu, ynghyd â’r rheswm dros hynny.

Mae rheol 19 yn caniatáu rhoi’r gorau i’r trafodion enwebu os torrir ar eu traws ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored. Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid i’r trafodion barhau drannoeth.

Rhan 3

Mae Rhan 3 o’r ddwy Atodlen yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r modd y cynhelir y bleidlais pan geir gornest mewn etholiad. Mae’r rheolau yn Rhan 3 yn ymdrin â ffurf a chynnwys papurau pleidleisio a dogfennau eraill i’w defnyddio yn y bleidlais (rheolau 21 i 24) ac maent yn galluogi swyddogion canlyniadau i ddefnyddio ystafelloedd ysgol ac ystafelloedd cyhoeddus eraill ar gyfer pleidleisio (rheol 26). Maent yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau eu cymryd cyn y bleidlais (rheolau 27 i 36), sy’n cynnwys rhoi hysbysiad o’r bleidlais, dyroddi papurau pleidleisio post a chardiau pleidleisio, darparu gorsafoedd pleidleisio ac offer a phenodi swyddogion llywyddu a chlercod. Maent hefyd yn nodi’r weithdrefn yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais (rheolau 37 i 51), gan gynnwys y cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr a’r cymorth y caniateir ei roi i bleidleiswyr sydd ag anabledd neu nad ydynt yn gallu darllen.

Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Ceir rhai mân wahaniaethau am fod y rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn rheoleiddio’r modd y cynhelir y bleidlais pan gaiff ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol (fel y’i diffinnir yn rheol 3 o’r Rheolau hyn). Er enghraifft, yn Atodlen 2, mae rheol 22(4)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r papur pleidleisio yn etholiad y brif ardal fod mewn lliw gwahanol i’r papur pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiad perthnasol. Nid oes gofyniad tebyg yn Atodlen 1 gan nad oes mo’i angen.

Mae rheolau penodol yn Rhan 3 o’r ddwy Atodlen yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Lle byddai rhywfaint o esboniad ar y ddeddfwriaeth arall honno o gymorth, fe’i rhoddir isod.

  • Mae rheol 28(1) o’r ddwy Atodlen (sy’n ymwneud â dyroddi papurau pleidleisio post etc.) a rheol 36(1) a (2) o’r ddwy Atodlen (sy’n ymwneud â marcio rhestrau o bleidleiswyr post) yn cyfeirio at reoliadau o dan Ddeddf 1983. Adeg gwneud y Rheolau hyn, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dyroddi papurau pleidleisio post, datganiadau pleidleisio post ac amlenni ar gyfer eu dychwelyd a marcio rhestrau o bleidleiswyr post.

  • Mae rheol 32(3) o Atodlen 1 a rheol 32(5) o Atodlen 2 yn darparu i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio gopïau (ymhlith pethau eraill) o hysbysiadau perthnasol a ddyroddir o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983. Mae’r rhain yn hysbysiadau sy’n ategu’r copïau o’r rhannau perthnasol o’r gofrestr sydd hefyd yn cael eu cyflenwi i’r orsaf bleidleisio. Mae hysbysiadau o dan adran 13B(3B) yn ymdrin â sefyllfaoedd lle cafwyd apêl yn erbyn penderfyniad swyddog cofrestru (er enghraifft, penderfyniad yn gwrthod cofrestru) a bod yr apêl yn llwyddiannus. Mae hysbysiadau o dan adran 13B(3D) yn ymdrin â sefyllfaoedd lle cafwyd sylwadau ynghylch gwall clerigol yn y gofrestr (er enghraifft, o ran enw neu gyfeiriad person) a bod y swyddog cofrestru yn cytuno bod yna wall.

  • Mae rheol 35(1) o’r ddwy Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau roi i bawb sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, heblaw pleidleiswyr a’u cwmni, personau o dan 16 oed a chwnstabliaid ar ddyletswydd, hysbysiad sy’n nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983. Mae adran 66(1) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau, clercod, ymgeiswyr, asiantau etholiadol, asiantau pleidleisio, cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio gadw cyfrinachedd y bleidlais ac mae’n eu gwahardd rhag cyfleu gwybodaeth benodol i neb, er enghraifft, enwau pleidleiswyr neu’r marc swyddogol. Mae adran 66(3) yn gwahardd unrhyw un rhag ymddygiad penodol, er enghraifft, ymyrryd â phleidleisiwr wrth iddo bleidleisio. O dan adran 66(6), mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau a nodir yn yr adran.

  • Mae rheol 37 o’r ddwy Atodlen yn cynnwys ymhlith y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio “personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000” (gweler rheol 37(1)(g)). Y personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd yr adrannau hyn yw cynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig (sydd naill ai’n unigolion y mae eu ceisiadau i arsylwi wedi eu caniatáu gan y Comisiwn Etholiadol neu gynrychiolwyr sefydliadau y mae’r Comisiwn Etholiadol wedi caniatáu eu ceisiadau i arsylwi).

Pan fo’r bleidlais mewn etholiad prif ardal yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol, mae’r sefyllfa gyfreithiol yn cael ei llywodraethu’n rhannol gan y Rheolau hyn ac yn rhannol gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 (O.S. 2004/294) (“Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”). Mae rôl y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal yn amrywio yn ôl a yw’r swyddog canlyniadau hwnnw hefyd yn “swyddog canlyniadau cydlynol”. Diffinnir hyn yn rheol 5(4) o’r Rheolau hyn fel y person sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn arfer swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.

Mae effaith hyn yn dibynnu ar y cyfuniad. Er enghraifft, pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad cyffredinol seneddol â’r bleidlais mewn etholiad prif ardal, y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredinol seneddol yw’r swyddog canlyniadau cydlynol ac sy’n arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 yn etholiad y brif ardal (yn ogystal â swyddogaethau arferol y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredinol seneddol). Ar y llaw arall, pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad cymuned â’r bleidlais mewn etholiad prif ardal cyffredin, y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol ac sy’n arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 yn etholiad y gymuned (yn ogystal â swyddogaethau arferol y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal).

Un o ganlyniadau hyn yw, er mwyn deall y cyfrifoldebau dros arfer swyddogaethau o dan reolau penodol yn Rhan 3 o Atodlen 2, bod angen darllen y rheolau hynny a’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau ill dau. I helpu’r darllenydd, mae’r rheolau dan sylw yn cynnwys rhai arwyddbyst i’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau. Er enghraifft, mae rheol 29 o Atodlen 2 yn nodi swyddogaeth y swyddog canlyniadau o sicrhau nifer digonol o orsafoedd pleidleisio yn etholiad y brif ardal. Os swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn yr etholiad hwnnw yn arfer y swyddogaeth hon yn y ffordd arferol (ac mae hefyd yn arfer y swyddogaeth gymaradwy yn yr etholiad arall yn unol â’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau).

Er hynny, fel yr esboniwyd, mae yna achosion pan na fydd y swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol, er enghraifft, pan fo’r etholiad arall yn etholiad cyffredinol seneddol. Yn yr enghraifft honno, swyddog canlyniadau’r etholiad cyffredinol seneddol fydd y swyddog canlyniadau cydlynol ac o dan y Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau bydd yn arfer y swyddogaeth o sicrhau nifer digonol o orsafoedd pleidleisio yn etholiad y brif ardal (yn ogystal ag yn yr etholiad cyffredinol seneddol). Gan hynny, mae rheol 29(4) yn cynnwys arwyddbost at y Rheoliadau hynny gyda’r nod o helpu’r darllenydd.

Y swyddogaethau eraill yn Rhan 3 o Atodlen 2 sydd weithiau’n arferadwy o dan y Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau gan y swyddog canlyniadau mewn etholiad perthnasol yn hytrach na swyddog canlyniadau prif ardal yw’r canlynol (ac mae’r rheolau perthnasol felly yn cynnwys arwyddbyst i helpu’r darllenydd):

  • paratoi’r rhestr rhifau cyfatebol o dan reol 23 neu, os nad yw’r trafodion ar ddyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y brif ardal a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd, paratoi Rhan 2 o’r rhestr;

  • cyhoeddi hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio etc. o dan reol 27(3) i (5);

  • dyroddi papurau pleidleisio post o dan reol 28 pan fo trafodion dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y brif ardal a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd;

  • darparu gorsafoedd pleidleisio o dan reol 29;

  • penodi swyddogion llywyddu a chlercod o dan reol 30;

  • darparu cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio o dan reol 32;

  • hysbysu, o dan reol 35, gofynion adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983;

  • marcio’r rhestrau o bleidleiswyr post a phleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy o dan reol 36, pan fo trafodion dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y brif ardal a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd;

  • llofnodi tystysgrifau o dan reol 37(5) sy’n ymwneud â dyletswyddau staff y swyddog canlyniadau;

  • awdurdodi unigolion o dan reol 38(3)(b) a gaiff symud y rhai sy’n camymddwyn o orsafoedd pleidleisio.

Rhan 4

Mae Rhan 4 o’r ddwy Atodlen (rheolau 52 i 60 yn Atodlen 1 a rheolau 52 i 64 yn Atodlen 2) yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r broses o gyfrif pleidleisiau a datgan y canlyniad mewn etholiadau lle ceir gornest, gan gynnwys rheolau ynghylch pwy gaiff fod yn bresennol, y trefniadau ymarferol yn y cyfrif, y camau rhagarweiniol y mae’n rhaid eu cymryd, y dull cyfrif, gwrthod papurau pleidleisio, ailgyfrifiadau a’r camau y mae’n rhaid eu cymryd pan ddatgenir y canlyniad.

Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Mae pleidleisiau yn etholiad y brif ardal yn cael eu cyfrif yn yr un ffordd p’un a yw’r bleidlais yn yr etholiad wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol ai peidio. Er hynny, ceir rhai gwahaniaethau yng nghynnwys y rheolau. Y rheswm am hyn yw bod angen i’r rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 2, sy’n gymwys pan fo’r bleidlais yn etholiad y brif ardal wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol, wahaniaethu rhwng y sefyllfa lle mae swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yn swyddog canlyniadau cydlynol a’r sefyllfa lle swyddog canlyniadau arall yw’r swyddog canlyniadau cydlynol. Yn benodol, pan fo swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yn swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn gwahanu’r papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn y bleidlais a gyfunwyd fesul etholiad (rheol 55).

Pan nad swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn cael papurau pleidleisio etholiad y brif ardal oddi wrth y swyddog canlyniadau cydlynol ar ôl iddynt gael eu gwahanu oddi wrth y papurau pleidleisio eraill (rheol 57). Er mwyn helpu gyda dealltwriaeth, mae rheol 52 yn rhoi trosolwg, sy’n nodi pa reolau sy’n gymwys pan fo swyddog canlyniadau’r brif ardal yn swyddog cydlynol a pha reolau sy’n gymwys pan nad y swyddog canlyniadau’r brif ardal yw’r swyddog cydlynol.

Mae rheolau penodol yn Rhan 4 yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Lle byddai esboniad ar y ddeddfwriaeth arall honno o gymorth, fe’i rhoddir isod.

  • Mae rheol 53 o’r ddwy Atodlen yn cynnwys ymhlith y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio “personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000” (gweler rheol 53(1)(e)). Fel yr esboniwyd uchod, y personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd yr adrannau hyn yw cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig.

  • Mae rheol 53(6) o Atodlen 1 a rheol 53(8) o Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i bawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif heblaw cwnstabliaid ar ddyletswydd gael hysbysiad sy’n nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983. Mae adran 66(2) yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif gadw cyfrinachedd y bleidlais ac mae’n eu gwahardd rhag canfod neu geisio canfod y rhif neu’r marc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio neu gyfathrebu â neb am yr ymgeisydd y rhoddwyd pleidlais benodol iddo. O dan adran 66(6), mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau a nodir yn yr adran.

  • Mae rheol 54(8)(c) o Atodlen 1 a rheol 58(3)(c) o Atodlen 2 yn cyfeirio at achosion pan fo camau i wirio dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy sy’n pleidleisio drwy’r post wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983. Adeg gwneud y Rheolau hyn, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dilysu.

Rhan 5

Mae Rhan 5 o’r ddwy Atodlen (rheolau 61 i 66 o Atodlen 1 a rheolau 65 i 70 o Atodlen 2) yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r hyn sy’n digwydd i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill a ddefnyddir mewn etholiadau, gan gynnwys rheolau ynghylch danfon dogfennau i swyddogion cofrestru, pwerau llysoedd i wneud gorchmynion sy’n ymwneud â’r dogfennau a phryd y mae’n rhaid eu dinistrio.

Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 5 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 5 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Ceir mân wahaniaethau am fod angen i’r rheolau yn Atodlen 2 (sy’n gymwys pan fo’r bleidlais yn etholiad y brif ardal wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol) wahaniaethu rhwng y sefyllfa lle mae swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yn swyddog canlyniadau cydlynol a’r sefyllfa lle swyddog canlyniadau arall yw’r swyddog canlyniadau cydlynol. Yn benodol, pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn gyfrifol am ddanfon ystod ehangach o ddogfennau i’r swyddog cofrestru (rheol 66 o Atodlen 2).

Rhan 6

Mae Rhan 6 yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r hyn sy’n digwydd pan fydd ymgeisydd yn marw. Mae’r rheolau’n sicrhau bod trafodion yr etholiad yn dod i ben a hefyd yn ymdrin â materion gweinyddol canlyniadol (er enghraifft, i sicrhau bod dogfennau a ddefnyddir yn yr etholiad yn cael eu hanfon at y swyddog cofrestru). Fel y nodir gan y ddarpariaeth arwyddbostio yn rheol 67(6) o Atodlen 1 a rheol 71(9) o Atodlen 2, mae adran 39 o Ddeddf 1983 yn ymdrin yn fwy cyffredinol â’r hyn sy’n digwydd pan fo ymgeisydd yn marw a phan fo’r bleidlais, o ganlyniad, yn cael ei diddymu neu pan roddir y gorau iddi. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau orchymyn cynnal etholiad newydd ond mae hefyd yn darparu nad yw enwebiadau newydd yn ofynnol yn achos ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn yr etholiad hwnnw.

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources