Search Legislation

Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1364 (Cy. 359)

Llywodraeth Leol, Cymru

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021

Gwnaed

am 10.05 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 5(3) o Fesur Plant a Theuluoedd 2010(1) ac adrannau 84(2)(a) a 174(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(2) (“Deddf 2021”).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o Ddeddf 2021(3).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “strategaeth tlodi plant” yw strategaeth sy’n nodi pob un o’r pethau a bennir yn adran 2(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

(b)ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

(c)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(d)ystyr “cyfnod y strategaeth” yw’r cyfnod y mae strategaeth tlodi plant mewn perthynas ag ef.

Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a’r strategaethau tlodi plant sy’n dilyn

3.—(1Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.

(2Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth (gweler rheoliad 4(2)), a

(b)sy’n dod i ben ar 31 Mawrth yn y drydedd flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cyhoeddir y strategaeth ynddi.

(3Cyfnod y strategaeth ar gyfer strategaethau tlodi plant dilynol yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn union ar ôl diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth flaenorol.

Amseriad cyhoeddi’r strategaeth tlodi plant gyntaf a’r strategaethau tlodi plant sy’n dilyn

4.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf ar 1 Ebrill 2023 neu cyn hynny.

(2Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig.

(3Rhaid i strategaethau dilynol gael eu cyhoeddi ar y dyddiad y mae cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth yn dechrau neu cyn hynny.

Dull cyhoeddi strategaeth tlodi plant

5.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi strategaeth tlodi plant drwy ei rhoi ar ei wefan ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth a rhaid iddo gynnal y strategaeth ar y wefan honno drwy gydol cyfnod y strategaeth.

(2Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.

Adolygiad o’r strategaeth tlodi plant

6.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu pob un o’i strategaethau tlodi plant cyn diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth o dan sylw.

(2Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig lunio adroddiad ar y cyfryw adolygiad a rhaid iddo gyhoeddi’r adroddiad adolygu drwy ei roi ar ei wefan.

(3Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (2) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.

Gofyniad ymgynghori

7.  Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig, cyn cyhoeddi strategaeth tlodi plant, ymgynghori â Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a phersonau eraill sydd, yn nhyb y cyd-bwyllgor corfforedig, yn briodol.

Diwygio Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011

8.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011(4), yn lle “nac awdurdod lleol” rhodder “, awdurdod lleol na chyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 10.05 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniad awdurdodau Cymreig at ddileu tlodi plant yng Nghymru.

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn awdurdodau Cymreig at ddiben y Mesur.

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r cyfnod amser y mae strategaeth tlodi plant a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag ef, pa bryd y dylai’r strategaeth gael ei hadnewyddu, pa bryd a sut y dylai’r strategaeth gael ei chyhoeddi a sut y gellir ei harchwilio.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011, drwy ddatgymhwyso’r Rheoliadau hynny i gyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ar gyfer darpariaeth ynglŷn â’r weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources