- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2. Yn adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(2), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymreig wneud a dangos eu cyfraniad tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) at y rhestr o awdurdodau Cymreig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru ac y mae’n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau neu gyfarwyddiadau a roddir o dan y Mesur gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: