- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, Adran 13.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd yn cael ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff cyd-bwyllgor corfforedig drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan—
(a)is-bwyllgor;
(b)aelod o staff;
(c)unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig arall;
(d)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
(2) Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan baragraff (1) yn atal y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.
(3) Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o dan baragraff (1)(a), caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, onid yw’r cyd-bwyllgor corfforedig wedi cyfarwyddo fel arall.
(4) Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan is-bwyllgor o dan baragraff (3) yn atal yr is-bwyllgor hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.
(5) Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni o dan baragraff (1)(c) neu (d) yna, yn ddarostyngedig i delerau’r trefniant, caiff y corff sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni’r swyddogaethau hynny drefnu iddynt gael eu cyflawni gan bwyllgor neu is-bwyllgor i’r corff hwnnw neu gan aelod o staff y corff hwnnw.
(6) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig gyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd.
(7) Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) cânt hefyd drefnu i aelod o staff gyflawni’r swyddogaethau hynny.
(8) Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) mae unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—
(a)y swyddogaethau hynny,
(b)y cyd-bwyllgorau corfforedig sydd i’w cyflawni, neu
(c)yr ardaloedd y maent i’w cyflawni mewn cysylltiad â hwy,
i’w ddehongli yn unol â pharagraff (9).
(9) Rhaid darllen deddfiad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) fel pe bai’n cynnwys pob addasiad sy’n angenrheidiol i alluogi cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw—
(a)gan y cyd-bwyllgorau corfforedig, a
(b)mewn cysylltiad â’r ardaloedd,
y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (boed yn unol â threfniadau o dan baragraff (6) neu fel arall).
(10) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig yn cynnwys cyfeiriadau at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.
(11) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar weithrediad Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(1).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan 1989 c. 42, a. 5(5A) (fel y’u mewnosodwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 7(4))
C2Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan O.S. 2021/343, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(7))
C3Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan S.I. 2021/342, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(7))
C4Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan 1988 c. 41, a. 115(4B) (fel y’u mewnosodwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 6(3))
C5Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan O.S. 2021/352, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 37(7))
C6Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan 2011 c. 20, a. 42(2A) (fel y’u mewnosodwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 12(1)(b))
C7Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan O.S. 2021/339, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(7))
C8Rhl. 13 eithirwyd (15.7.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/797), rhlau. 1(2), 9(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: