- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
29 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
30 Tachwedd 2021
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).
2.—(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
29 Tachwedd 2021
Rheoliad 2
| Billing authority area | Prescribed figure |
|---|---|
| Blaenau Gwent | 56,401 |
| Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr | 118,204 |
| Caerphilly/Caerffili | 144,061 |
| Cardiff/Caerdydd | 293,830 |
| Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin | 152,810 |
| Ceredigion | 60,661 |
| Conwy | 97,000 |
| Denbighshire/Sir Ddinbych | 77,165 |
| Flintshire/Sir y Fflint | 124,648 |
| Gwynedd | 101,957 |
| Isle of Anglesey/Ynys Môn | 57,101 |
| Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful | 47,544 |
| Monmouthshire/Sir Fynwy | 77,843 |
| Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot | 116,296 |
| Newport/Casnewydd | 120,851 |
| Pembrokeshire/Sir Benfro | 102,744 |
| Powys | 109,186 |
| Rhondda Cynon Taf | 191,775 |
| Swansea/Abertawe | 199,723 |
| Torfaen | 75,369 |
| Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg | 107,403 |
| Wrexham/Wrecsam | 107,142” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1988 p. 41. Diwygiwyd adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, gan adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17), a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi.
O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy. 47), 2000/3382 (Cy. 220), 2001/3910 (Cy. 322), 2002/3054 (Cy. 289), 2003/3211 (Cy. 304), 2004/3232 (Cy. 280), 2005/3345 (Cy. 259), 2006/3347 (Cy. 307), 2007/3343 (Cy. 295), 2008/2929 (Cy. 258), 2009/3147 (Cy. 274), 2010/2889 (Cy. 239), 2011/2610 (Cy. 283), 2012/3036 (Cy. 310), 2013/3046 (Cy. 305), 2014/3193 (Cy. 323), 2015/1905 (Cy. 277), 2016/1169 (Cy. 286), 2017/1159 (Cy. 287), 2018/1196 (Cy. 244), 2019/1399 (Cy. 246) a 2020/1366 (Cy. 302)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: