Search Legislation

Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 No. 1285 (Cy. 324)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) (Cymru) 2021

Gwnaed

17 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

1 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 76A(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1), a chan ystyried ei bod yn hwylus o ganlyniad i newidiadau yng ngwerth arian, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn(2):

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 1 Ionawr 2022.

Amrywio terfyn treuliau mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru

2.  Yn adran 76(2)(b) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3) (uchafswm treuliau ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol ac eithrio etholiad o dan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999(4)), o flaen is-baragraff (ii) mewnosoder—

(ic)at a local government election in Wales, £806 together with an additional 7p for every entry in the register of electors;.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynyddu uchafswm treuliau etholiad ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r cynnydd yn adlewyrchu chwyddiant ers i’r uchafswm gael ei amrywio ddiwethaf gan Orchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) 2014 (O.S. 2014/1870).

Mae uchafswm treuliau etholiad ymgeiswyr yn cynnwys swm penodedig (a fynegir mewn punnoedd) plws swm (a fynegir mewn ceiniogau) ar gyfer pob cofnod yn y gofrestr etholwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1983 p. 2 (“Deddf 1983”); mewnosodwyd adran 76A gan adran 14 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50) ac fe’i hamnewidiwyd gan adran 133(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1983, o ran Cymru, gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

Diwygiwyd adran 76(2)(b) gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), gan Ran 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), gan baragraffau 1 ac 20 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29), gan baragraffau 1 a 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2), gan O.S. 2005/269, O.S. 2014/1870 ac O.S. 2020/1634.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources