- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
17 Tachwedd 2021
Yn dod i rym
1 Ionawr 2022
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 1 Ionawr 2022.
2. Yn adran 76(2)(b) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3) (uchafswm treuliau ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol ac eithrio etholiad o dan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999(4)), o flaen is-baragraff (ii) mewnosoder—
“(ic)at a local government election in Wales, £806 together with an additional 7p for every entry in the register of electors;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn cynyddu uchafswm treuliau etholiad ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r cynnydd yn adlewyrchu chwyddiant ers i’r uchafswm gael ei amrywio ddiwethaf gan Orchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) 2014 (O.S. 2014/1870).
Mae uchafswm treuliau etholiad ymgeiswyr yn cynnwys swm penodedig (a fynegir mewn punnoedd) plws swm (a fynegir mewn ceiniogau) ar gyfer pob cofnod yn y gofrestr etholwyr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1983 p. 2 (“Deddf 1983”); mewnosodwyd adran 76A gan adran 14 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50) ac fe’i hamnewidiwyd gan adran 133(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1983, o ran Cymru, gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) ac Atodlen 1 iddo.
Diwygiwyd adran 76(2)(b) gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), gan Ran 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), gan baragraffau 1 ac 20 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29), gan baragraffau 1 a 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2), gan O.S. 2005/269, O.S. 2014/1870 ac O.S. 2020/1634.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: