- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru fel “the appropriate Minister”, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 sy’n dod i ben ar 11 Ionawr 2021.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ionawr 2021 a deuant i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021. Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.
Mae’r Rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig, bod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer neu ddanfon hysbysiad troi allan.
Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hawliad yn un yn erbyn tresmaswyr sy’n bersonau anhysbys; neu pan y’i gwnaed yn llwyr neu’n rhannol ar sail trais domestig, troseddau difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu niwsans; neu, mewn achosion pan fo’r person sy’n bresennol wedi ei fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu ar yr adeg pan fo’n bresennol a phan fo’r gorchymyn meddiant wedi ei wneud yn llwyr neu’n rhannol ar sail marwolaeth y meddiannydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: