- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
6 Hydref 2021
Yn dod i rym
8 Hydref 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1) a pharagraff 6(2) o Atodlen 17 iddi.
Yn unol ag adran 209(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Hydref 2021.
2. Yn Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021(3), yn lle rheoliad 17(2) rhodder—
“(2) Cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd yw cyfnod o 8 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod y gydnabyddiaeth, a roddir o dan reoliad 13(1)(b)(i), wedi ei chael yn unol â rheoliad 75(11). Mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 (“Rheoliadau’r Tribiwnlys”).
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 17(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau’r Tribiwnlys i ddarparu mai cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd sy’n gwneud hawliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw 8 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y ceir y gydnabyddiaeth fod hawliad wedi ei gael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Mae’r cyfeiriad yn adran 209(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w ddarllen bellach fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: