- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
3.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (9), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os, wrth asesu cais y person i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan reoliad 9, yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(3) Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—
(a)os yw A wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ynddi;
(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig;
(e)os yw A yn garcharor, oni bai ei fod yn garcharor cymwys;
(f)os yw A wedi ymrestru ar gwrs sy’n—
(i)cwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig), 66 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig) neu 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig) o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;
(ii)cwrs dynodedig o dan reoliad 4 (cyrsiau dynodedig) o Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;
(iii)cwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig) o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;
(g)os yw A eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch;
(h)os yw A eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw;
(i)os, yn ddarostyngedig i baragraff (9), yw A wedi cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn;
(j)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—
(i)bwrsari gofal iechyd;
(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1);
(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2)[F1, neu o dan adran 46 o Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017,] ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;
(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;
(k)os, yn ddarostyngedig i baragraff (9), yw A wedi cael benthyciad yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs ac eithrio o dan y Rheoliadau hyn, pan ddarparwyd y benthyciad hwnnw o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig;
(l)os yw A, mewn perthynas â’r cwrs, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—
(i)gan Gyngor Ymchwil;
(ii)gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig(4); neu
(m)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas â’r cwrs, unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.
(4) Pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy’n gwrs dysgu o bell, nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, pa un a yw’r cwrs yn gwrs dynodedig ar y dyddiad hwnnw neu’n cael ei ddynodi ar ddyddiad diweddarach.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar gyfer unrhyw gyfnod—
(a)pan fyddai A wedi bod yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru oni bai am y ffaith bod—
(i)A,
(ii)priod neu bartner sifil A,
(iii)rhiant A,
(iv)pan fo A yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fel aelod o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron; neu
(b)pan fo A yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar sail cyflogaeth dros dro sy’n dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.
(6) Mae myfyriwr cymwys yn peidio â bod yn gymwys i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig er gwaethaf a yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried yn flaenorol fod y myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â’i gwrs o fewn y Deyrnas Unedig.
(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar y sail bod cyflogaeth dros dro yn dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.
(8) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu (3)(k) yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol anorchfygol.
(10) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan baragraff (9) unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 3(3)(j)(iii) wedi eu mewnosod (dod i rym yn unol â rhl. 1 o'r O.S. diwygio) gan The Children and Social Work Act 2017 (Consequential Amendments) (Social Workers) Regulations 2019 (O.S. 2019/1094), Atod. 3 para. 45(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 3—
(a)os yw cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs yn para am—
(i)dim llai na thair blynedd academaidd; a
(ii)dim mwy nag wyth mlynedd academaidd;
[F2(b)os yw’n un o’r canlynol—
(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath a gyllidir yn gyhoeddus neu â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);
(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
(aa)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig); neu
(ab)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig;]
(c)os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; a
(d)os yw’n gwrs—
(i)sy’n arwain at radd ddoethurol a roddir neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(5); a
(ii)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b) ac (c)—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig;
(c)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg cyfansoddol neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus;
[F3(d)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—
(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw; neu
(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol;]
(e)ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat.
[F4(2A) At ddiben paragraff (2)—
(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a
(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.]
(3) Caiff y cwrs dynodedig fod, ond nid oes angen iddo fod, yn gwrs dysgu o bell.
(4) Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 3 os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion—
(a)rheoliadau 5 neu 83 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017;
(b)rheoliad 4 o Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017;
(c)rheoliad 5 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018.
(5) At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998(6) a rheoliad (3), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).
(6) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (5).
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 4(1)(b) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 63(a)
F3Rhl. 4(2)(d) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 63(b)
F4Rhl. 4(2A) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 63(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 4 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes bod y statws yn terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 3.
(2) Y cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra”.
(3) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 3, mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“A”) yn terfynu—
(a)ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer cwrs dynodedig A yn dod i ben ynddi; neu
(b)pan fo traethawd ymchwil cychwynnol A mewn perthynas â’r cwrs hwnnw yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod academaidd perthnasol,
pa un bynnag yw’r cynharaf.
(4) Mae cyfnod cymhwystra A yn terfynu—
(a)pan fydd A yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru yn gorfod, o dan reoliad 6, drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i gwrs arall; neu
(b)pan fydd A yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra pan fo A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.
(6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod A wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi darparu gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau gweithredu a ganlyn y maent yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra A;
(b)penderfynu nad yw A yn cymhwyso mwyach i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig;
(c)trin unrhyw fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 18.
(7) Pan fo’r cyfnod cymhwystra yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y maent yn penderfynu arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 5 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys (“A”) yn trosglwyddo o gwrs dynodedig (“yr hen gwrs”) i gwrs dynodedig arall (“y cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais gan y myfyriwr cymwys i wneud hynny;
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c)pan na fo’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
(2) Y seiliau dros drosglwyddo yw—
(a)bod A, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i’r hen gwrs ac yn dechrau ymgymryd â’r cwrs newydd yn yr un sefydliad; neu
(b)bod A yn dechrau ymgymryd â’r cwrs newydd mewn sefydliad arall.
(3) Pan fo A yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan A, mewn cysylltiad â’r cwrs newydd, i gael gweddill y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 14 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17, mewn cysylltiad â’r hen gwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 6 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
7. Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 8 yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 7 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
8. Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
[F5(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]
(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn UE;
(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 1;
(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu
(i)bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.
Diwygiadau Testunol
F5Rhl. 8(ba) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 64
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 8 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
O.S.A. 2007/151, fel y’i diwygiwyd gan O.S.A. 2007/503, O.S.A. 2008/206, O.S.A. 2009/188, O.S.A. 2009/309, O.S.A. 2012/72, O.S.A. 2013/80, O.S.A. 2016/82 ac O.S.A. 2017/180.
2000 p. 14. Diwygiwyd adran 67(4)(a) gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2), adran 185, Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43(d).
Mae Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 91 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29). Mae adrannau 95 i 98 o’r Ddeddf honno yn darparu i Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig wneud trefniadau ar gyfer arfer ei swyddogaethau ar ei ran.
1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 53.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: