- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
5 Ebrill 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Ebrill 2017
Yn dod i rym
5th May 2017
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(3).
2.—(1) Mae Rheoliadau 1999 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae’r Atodlen (Ffurf ar Orchymyn Cadw Coed) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn erthygl 7, hepgorer paragraff (2);
(b)yn Rhan 1 o Atodlen 2, mae’r addasiadau a’r newidiadau i adran 78(4) o’r Ddeddf Gynllunio a grybwyllir yng ngholofn (2) o Ran 1 o Atodlen 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(i)ym mharagraff (a) ar ôl “In subsection (1)” mewnosoder “omit paragraph (aa) and”;
(ii)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(ca)After subsection (3) insert—
“(3A) The notice mentioned in subsection (3) must be accompanied by a full statement of case.”.”;
(iii)ym mharagraff (d) yn lle is-adran (4) a amnewidiwyd rhodder—
“(4) The appellant must serve on the authority, as soon as reasonably practicable, a copy of—
(a)the notice mentioned in subsection (3); and
(b)the full statement of case.”;
(iv)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)Omit subsections (4A) to (4BB).”;
(v)ym mharagraff (e) yn is-adran (5) a amnewidiwyd ar ôl “the application of section 79(1)” mewnosoder “and section 319B(7)”;
(vi)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(f)After subsection (5) insert—
“(6) In this section “full statement of case” means and is comprised of a written statement containing full particulars of the case the appellant proposes to put forward in relation to the appeal and copies of any supporting documents the appellant proposes to refer to or put in evidence.”.”;
(c)mae’r addasiadau a’r newidiadau i adran 79(5) o’r Ddeddf Gynllunio a grybwyllir yng ngholofn (2) o Ran 1 o Atodlen 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(i)ym mharagraff (a) yn lle “subsections (1) and (2)” rhodder “subsection (1)”;
(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)Omit subsections (1A) to (3A).”;
(iii)yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)For subsection (4), substitute—
“(4) The provisions of section 70(1), (1A) and (1B) apply, with any necessary modifications, in relation to an appeal to the Secretary of State under section 78 as they apply in relation to an application for consent under a tree preservation order which falls to be determined by the authority.”.”;
(iv)ym mharagraff (d) yn lle “(6A)” rhodder “(6ZA)”;
(v)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)In subsection (6A), for “such an appeal” substitute “an appeal in relation to an application for consent under a tree preservation order”.”;
(d)hepgorer Rhan 2 o Atodlen 2.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan wnaed unrhyw un neu ragor o’r canlynol cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—
(a)cais am ganiatâd o dan orchymyn cadw coed,
(b)cais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi caniatâd o dan orchymyn o’r fath, neu
(c)cyfarwyddyd o dan orchymyn cadw coed neu gais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan y fath gyfarwyddyd.
(2) Mae Rheoliadau 1999 yn gymwys i apêl mewn perthynas â’r fath gais neu gyfarwyddyd fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2)(b)(ii), (iii) a (vi) wedi eu gwneud.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau 1999”).
Mae rheoliad 2 o Reoliadau 1999 yn gwneud darpariaeth bod rhaid i Orchymyn Cadw Coed fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
Mae erthygl 7 o’r ffurf ar Orchymyn Cadw Coed a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau 1999 (“y Gorchymyn”) yn cymhwyso darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan gynnwys adrannau 78 a 79 o’r Ddeddf honno, i ganiatadau o dan y Gorchymyn a cheisiadau am ganiatâd o’r fath, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a’r newidiadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn. Mae’r darpariaethau fel y’u haddaswyd a’u newidiwyd yn cael eu nodi yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 ac yn dileu Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.
Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol—
(a)bod hysbysiad apêl yn dod gyda datganiad achos llawn ar ffurf datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn achos yr apelydd a chopïau o ddogfennau ategol; a
(b)bod yr apelydd yn anfon, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gopi o’r hysbysiad apêl a chopi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod a wnaeth y gorchymyn cadw coed.
Ceir darpariaethau trosiannol ac arbed.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru
>1990 p. 8. Mae diwygiadau i adran 333 ond nid oes un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Gweler adran 198(3) a (4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mewn perthynas â darpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cadw coed. Diwygiwyd adran 198(4) gan adrannau 31, 32 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraff 20 o Atodlen 6, paragraff 34 o Atodlen 7 a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 19 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Gweler y cofnod priodol yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1999/1892 y mae diwygiadau iddo ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
Diwygiwyd adran 78 gan adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 11 iddi, erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2773) (Cy. 280) a pharagraffau 1 a 3 o’r Atodlen iddo, adrannau 45, 47(1) a 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) a pharagraff 7(1) a (2) o Atodlen 7 iddi, adran 150(5) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 1 ac 21 o Atodlen 12 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 79 gan adrannau 18 a 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraff 19 o Atodlen 7 iddi, adran 196(4) o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 10 iddi, erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014 a pharagraffau 1 a 4 o’r Atodlen iddo, adran 29(1) a (3) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac adran 150(5) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraffau 1 a 23(1), (2)(a) i (d), (3) o Atodlen 12 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: