- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
9. Ym mharagraff 37 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—
(a)yn is-baragraff (1) yn lle “is-baragraff (2) neu (4)” rhodder “is-baragraff (2), (3A), (4A) neu (5)”;
(b)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Rhaid cymryd i ystyriaeth incwm a gyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—
(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae enillion o gyflogaeth y ceisydd yn newid er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.”;
(c)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—
“(4A) Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion o gyflogaeth ceisydd fel enillydd cyflogedig na chyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—
(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: