- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi pa faterion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(a), 4(a) ac (c)(ii), 5(a), 6(a) ac (c)(ii) i (e) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd gyferbyn ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 8, 17(a) ac (c)(ii), 18(a) ac (c)(ii) i (e).
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(a)(iii) i (vi), 4(a) a 5(a)(iii) i (vi) hefyd yn cywiro anghysondebau rhwng y ffigurau yn fersiynau Cymraeg a Saesneg y Rheoliadau hynny a fewnosodwyd gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 8(c) i (f) a 17(a).
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir yn rheoliadau 3(b) a 5(b) ac (c) yn gwneud newidiadau i ddarpariaethau ynghylch pa bryd yr ystyrir enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd. Ystyrir yr enillion yn yr wythnosau gostyngiad a bennwyd, hyd yn oed os nad yw’r ceisydd mewn gwirionedd yn cael yr enillion gan ei gyflogwr yn ystod yr wythnos honno. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 9, 11 a 12.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(c) i (e) a 5(d) i (g) yn diweddaru cyfeiriadau at “rhyddhadau personol” er mwyn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf Treth Incwm 2007. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 10 a 13 i 16.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4(b) i (c)(i) a 6(b) ac (c)(i) yn darparu, pan fo gan ofalwr person ag anabledd difrifol ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr, na fydd gan y person hwnnw ag anabledd difrifol yr hawl i’r premiwm anabledd difrifol wrth bennu swm cymwysadwy’r person hwnnw. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b) ac (c)(i) a 18(b) ac (c)(i).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: