- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (O.S. 1986/975), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (O.S. 1997/818) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1104 (Cy. 116)).
Maent yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/97 (Cy. 46)) ac yn cyflwyno trothwyon ar gyfer personau sy’n cael credyd cynhwysol os ydynt i fod yn gymwys i gael ad-daliad o dreuliau teithio a chymorth mewn cysylltiad â chostau penodol sy’n ymwneud ag iechyd.
Mae rheoliad 13 o Reoliadau 1986 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwy sydd â hawl i gael profion golwg gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ran 6 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006.
Mae rheoliad 8 o Reoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun i daliadau gael eu gwneud, drwy system dalebau, mewn cysylltiad â chostau y mae categorïau penodol o bersonau yn mynd iddynt mewn cysylltiad â chyflenwi teclynnau optegol.
Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn gwneud darpariaeth i alluogi pobl sy’n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol, neu sydd ar incwm isel, i gael eu had-dalu ar gyfer treuliau teithio yr eir iddynt wrth gael gwasanaethau GIG penodol ac i fod yn esempt rhag talu ffioedd GIG penodol, heb yr angen i wneud hawliad.
Mae rheoliadau 3, 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986, rheoliad 8 o Reoliadau 1997 a rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn y drefn honno, fel bod hawl, ar ôl 1 Ebrill 2017, gan berson sy’n cael credyd cynhwysol heb elfen plentyn, heb elfen gallu cyfyngedig i weithio neu heb elfen gallu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhan o’i ddyfarniad, i gael ad-daliad llawn o dreuliau teithio penodol sy’n ymwneud â thriniaeth GIG, i beidio â thalu ffioedd GIG penodol ac i gael cymorth sy’n ymwneud â darparu profion golwg gwasanaethau offthalmig cyffredinol a chyflenwi teclynnau optegol, os nad oes gan y person hwnnw unrhyw incwm a enillir neu incwm a enillir o £435 neu lai yn y cyfnod asesu credyd cynhwysol perthnasol. Bydd hefyd hawl gan berson (neu berson ifanc cymwys y mae’r derbynnydd yn gyfrifol amdano) i gael yr ad-daliad, i beidio â thalu ac i gael cymorth os yw’r person hwnnw yn cael credyd cynhwysol gydag unrhyw un neu ragor o’r elfennau a grybwyllwyd uchod fel rhan o’r dyfarniad ac nad oes ganddo unrhyw incwm a enillir neu incwm a enillir o £935 neu lai yn y cyfnod asesu credyd cynhwysol perthnasol.
Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol i sicrhau bod personau, y codwyd eu hawl i gael ad-daliad o dreuliau teithio neu, i beidio â thalu ffi neu i gael cymorth gyda chost cyn 1 Ebrill 2017, yn gallu cael ad-daliad, yn gallu peidio â thalu neu’n gallu cael cymorth ar ôl y dyddiad hwnnw, er gwaethaf y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: