- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Tachwedd 2015 ar fwydydd newydd, sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 258/97 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1852/2001 (OJ Rhif L 327, 11.12.2015, t 1) (“y Rheoliad Bwydydd Newydd”).
Mae rheoliad 3 yn gwneud awdurdodau bwyd yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau.
Mae rheoliad 4 yn darparu ei bod yn drosedd i berson fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(2) o’r Rheoliad Bwydydd Newydd ac y caniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy. Mae Erthygl 6(2) yn darparu mai dim ond bwydydd newydd a awdurdodir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac a gynhwysir yn rhestr yr Undeb Ewropeaidd o fwydydd newydd y caniateir eu rhoi ar y farchnad o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a bod rhaid i’r bwydydd fod yn unol â’r amodau defnyddio a’r gofynion labelu a nodir yn y rhestr.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau)—
(a)adran 9, sy’n galluogi swyddog awdurdodedig, os yw’n ystyried bod Erthygl 6(2) o’r Rheoliad Bwydydd Newydd yn cael neu wedi cael ei thorri, i roi hysbysiad i’r person a chanddo ofal am y bwyd nad yw’r bwyd i gael ei fwyta gan bobl neu nad yw i gael ei symud ymaith ac eithrio i ryw fan a bennir yn yr hysbysiad, neu i ymafael yn y bwyd er mwyn i ynad heddwch ymdrin ag ef; a
(b)adran 10(1), sy’n galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a chanddo ofal am y bwyd gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliad Bwydydd Newydd a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.
Mae rheoliad 6 yn dirymu—
(a)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997 (O.S. 1997/1335) o ran Cymru;
(b)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd (Ffioedd) 1997 (O.S. 1997/1336) o ran Cymru;
(c)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy. 299)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales/wales.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: