- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
29 Medi 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Hydref 2016
Yn dod i rym
7 Tachwedd 2016
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd a gaiff prosiectau sy’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref(2) a thrwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno ac adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Tachwedd 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn lle rheoliad 57(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(4) rhodder—
“(2) Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012(5) yn cael effaith fel pe bai—
(a)pob un o’r cyfeiriadau yn erthygl 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a
(b)y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)(6) at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.”
3. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisiadau y ceir diwygiadau yn eu cylch gan yr awdurdod ar neu cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2016
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
O dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), caiff person sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, neu am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod neu gyfyngiad a atodir i ganiatâd cynllunio, apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod rhagnodedig.
Mae’r cyfnod wedi ei ragnodi yn erthygl 22(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Wyth wythnos yw’r cyfnod oni bai y caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad. Os caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad, y cyfnod fydd un ai pedair wythnos o’r dyddiad y daw y diwygiad i law’r awdurdod neu ddeuddeng wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol, pa un bynnag yw’r hiraf.
Mae rheoliad 57(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) yn cynyddu’r cyfnod o wyth wythnos yn erthygl 22(2)(a) i un wythnos ar bymtheg pan fo’r cais yn ymwneud â datblygiad lle mae asesu effeithiau amgylcheddol (“AEA”) yn ofynnol.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 57(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau 2016. Gall ceisydd apelio ar ôl y cyfnod a ragnodir yn erthygl 22(2) os caiff cais lle mae AEA yn ofynnol ei ddiwygio ond os na chaiff penderfyniad ei wneud yn ei gylch, a daw’r cyfnod hwnnw yn bedair wythnos o’r dyddiad y caiff yr awdurdod y diwygiad neu’n ugain wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol lle mae AEA yn ofynnol, pa un bynnag yw’r hiraf.
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.
Ni ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau cyhoeddus, preifat na gwirfoddol, neu y rhagwelir ychydig iawn o effaith ar y sectorau hynny. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
O.S. 2007/1679. Gweler erthygl 4.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 71A gan adran 15 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf honno, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yr oedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y diffinnir “the relevant Assembly functions” ym mharagraff 30(2).
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110))
Mewnosodwyd is-baragraff (aa) o erthygl 22(2) gan erthygl 11(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59 (Cy. 29)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: