Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 (“Rheoliadau 1995”) mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

Mae Rheoliadau 1995 yn darparu i awdurdodau bilio (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) ac awdurdodau praeseptio mawr yng Nghymru gyfrifo sylfeini eu treth gyngor. Mae sylfaen y dreth gyngor yn swm y mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ddefnyddio gan awdurdodau bilio ac awdurdodau praeseptio mawr wrth gyfrifo treth gyngor ac wrth gyfrifo swm praesept sy’n daladwy gan bob awdurdod bilio i awdurdod praeseptio mawr.

Mae’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i ddiwygiadau i Ddeddf 1992 gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae’r diwygiadau hynny yn galluogi awdurdodau bilio yng Nghymru i gymhwyso swm uwch o ran treth gyngor (“premiwm”) mewn cysylltiad ag anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol.

Ceir sylfaen y dreth gyngor ar gyfer y cyfan o ardal awdurdod bilio (eitem T yn adran 33(1) o Ddeddf 1992) drwy adio at ei gilydd y symiau perthnasol ar gyfer pob band treth gyngor a lluosi’r cyfanswm ag amcangyfrif yr awdurdod o’i gyfradd gasglu (gweler rheoliad 3 o Reoliadau 1995).

Mae rheoliad 4 yn mewnosod rheoliad 5B newydd yn Rheoliadau 1995. Wrth gyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae’r fformiwla yn y rheoliad 5B newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio gymryd i ystyriaeth unrhyw bremiwm a gymhwyswyd o dan adran 12A neu 12B o Ddeddf 1992 (os yw’r awdurdod wedi penderfynu codi premiwm mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno). Mae’r fformiwla newydd yn cynnwys eitem “E” sy’n ffactor i gymryd i ystyriaeth bremiwm y gall y dreth gyngor fod yn ddarostyngedig iddo. Mae’r cyfrifiad ar gyfer eitem E yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bilio luosi, ar gyfer pob canran berthnasol, amcangyfrif o nifer yr anheddau y mae premiwm yn gymwys mewn cysylltiad â hwy â’r ganran berthnasol. Yn y cyd-destun hwn y “ganran berthnasol” yw’r ganran y mae treth gyngor wedi ei chynyddu â hi oherwydd cymhwyso premiwm (gweler y diwygiad i ystyr “relevant percentage” yn rheoliad 1(3) o Reoliadau 1995 a wneir gan reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn).

Mae’n ofynnol i awdurdodau bilio wneud eu cyfrifiadau ar sail y rhestr treth gyngor ar y diwrnod a ragnodir gan reoliadau. Mae’r diwrnod hwn, y “diwrnod perthnasol”, ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 yn 31 Hydref yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y gwneir y cyfrifiadau ar ei chyfer.

Mae paragraff (7) o’r rheoliad 5B newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio gymryd i ystyriaeth bremiwm wrth gyfrifo eitem J yn y fformiwla. Eitem J yw swm unrhyw addasiad mewn cysylltiad â newidiadau yn nifer yr anheddau trethadwy neu ddisgowntiau a gyfrifir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod o’r diwrnod perthnasol i ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae cyfrifo eitem J yn y rheoliad 5B newydd yn cynnwys elfen i gymryd i ystyriaeth unrhyw addasiadau i gymhwysiad premiwm.

Mae rheoliad 6 o Reoliadau 1995 yn darparu ar gyfer cyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer rhan o ardal awdurdod bilio (eitem “TP” yn Neddf 1992). Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod cyfeiriadau at y rheoliad 5B newydd yn rheoliad 6 o Reoliadau 1995. Gan hynny, mae’r cyfrifiad ar gyfer sylfaen y dreth ar gyfer rhan o ardal yn cymryd cymhwyso premiwm i ystyriaeth.

Mae rheoliad 7 o Reoliadau 1995 yn darparu ar gyfer cyfrifo sylfaen y dreth at ddibenion awdurdod praeseptio mawr. Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod cyfeiriadau at y rheoliad 5A newydd ac at eitemau yn y cyfrifiadau yn y rheoliad 5A newydd yn rheoliad 7 o Reoliadau 1995. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfrifiad o sylfaen y dreth yn cynnwys cymhwyso premiwm.

Mae rheoliad 9 o Reoliadau 1995 yn darparu ar gyfer penderfynu ar sylfaen treth awdurdod bilio gan awdurdod praeseptio mawr pan fo’r awdurdod bilio wedi methu â hysbysu’r awdurdod praeseptio mawr am sylfaen ei dreth yn ystod y cyfnod rhagnodedig. Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 i fewnosod cyfeiriad at y rheoliad 5A newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources