- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (O.S 2004/478, fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau Contractau GMS”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 (O.S 2004/1002, fel y’u diwygiwyd (“Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau GMS”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/490, fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau GDS”), a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/489, fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau PDS”).
Caiff darparwyr gwasanaethau o dan y contractau neu’r cytundebau y gwneir darpariaeth mewn cysylltiad â hwy gan Reoliadau Contractau GMS, Rheoliadau GDS a Rheoliadau PDS ddewis bod yn “corff gwasanaeth iechyd” ac felly i’w contract fod yn gontract GIG. Caiff darparwyr sy’n dewis bod yn gorff gwasanaeth iechyd hefyd ddewis peidio â bod yn gorff o’r fath mwyach ac i’w contract beidio â bod yn gontract GIG mwyach. Pan fo contractwr yn dewis peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd mwyach, mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4, 8, 10, 12, 14 ac 16 yn cael yr effaith o ddarparu yr ymdrinnir â’r holl anghydfodau sy’n ymwneud â’r cyfnod pan oedd y contract yn gontract GIG o dan weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG. Gwneir darpariaeth drosiannol yn rheoliad 18 sy’n darparu os yw anghydfod eisoes yn destun achos cyfreithiol cyn i’r rheoliadau hyn ddod i rym, fod yr anghydfod hwnnw i gael ei benderfynu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol fel yr oedd yn gymwys bryd hynny.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod paragraff newydd 15A yn Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS. Mae hyn yn galluogi contractwr i dderbyn aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi fel claf am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf os yw’r person hwnnw wedi cael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn i gael gwasanaethau meddygol o dan y contract ym mhractis y contractwr a bod y contractwr wedi ei fodloni bod y person yn byw neu’n gweithio o fewn ardal practis y contractwr.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniad o “armed forces of the Crown” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Contractau GMS.
Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud diwygiadau i baragraff 25 a 67 o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 5.
Mae rheoliad 9 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau Rhagnodi Cyffuriau GMS. Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau i’r tabl yn Atodlen 2 sy’n cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir archebu cyffuriau neu feddyginiaethau penodol ar gyfer categorïau penodedig o gleifion at ddibenion penodedig. Mae’r cofnod yn y tabl sy’n ymwneud â’r cyffuriau penodol na chaniateir eu harchebu ar gyfer trin camweithredu ymgodol ond mewn amgylchiadau cyfyngedig wedi ei ddiwygio er mwyn dileu Apomorphine Hydrochloride, Moxisylyte Hydrochloride, a Thymoxamine Hydrochloride ac er mwyn cynnwys Avanafil. Mae’r cofnod yn y tabl sy’n ymwneud â’r cyffur Oseltamivir (Tamiflu) ar gyfer trin y ffliw wedi ei ddiwygio er mwyn dileu’r cyfyngiad ar ragnodi’r cyffur i fabanod sydd o dan 1 oed. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio’r diffiniad o ystyr “at-risk” yn Atodlen 2.
Mae rheoliadau 11, 13, 15 a 17 yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau GDS ac Atodlen 3 i Reoliadau PDS mewn perthynas â thermau contractiol eraill y mae rhaid i gontract GDS a chytundeb PDS eu cynnwys. Mae rheoliadau 11 a 15 yn mewnosod darpariaeth newydd mewn cysylltiad â’r defnydd o rifau ffôn penodol sy’n codi mwy o dâl ar gleifion na chost gyfatebol ffonio rhif ffôn daearyddol. Mae rheoliadau 13 a 17 yn gwneud diwygiadau mewn cysylltiad â’r termau contractiol mewn perthynas â therfynu contract deintyddol pan fo ymarferydd unigol yn marw. Effaith y diwygiadau yw estyn y cyfnod y mae rhaid i ystad deiliad contract gadarnhau i’r bwrdd iechyd ynddo ei fod yn dymuno parhau i fod yn ddeiliaid y contract ar ôl marwolaeth deiliad y contract i 28 o ddiwrnodau. Mae’r cyfnod amser sydd gan yr ystâd wedyn i wneud trefniadau i barhau i ddarparu’r gwasanaethau hefyd wedi ei estyn i chwe mis.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: