Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 87 (Cy. 41)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a (3), 25, 26(2) a (3), 27, 28(3), 30, a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

2.  Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 71 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;.

4.  Yn rheoliad 5 (tystysgrif gofrestru), hepgorer is-baragraff (ch).

5.  Yn rheoliad 6 (y person cofrestredig: ei addasrwydd), ym mharagraff (1), yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.

6.  Yn rheoliad 20 (diogelu a hyrwyddo lles)—

(a)ym mharagraff (2) yn lle “yn addas i gael cyswllt o’r fath” rhodder “yn addas i gael cyswllt â phlant”; a

(b)ym mharagraff (4), ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosoder “pan fo’n briodol,”.

7.  Yn rheoliad 28 (addasrwydd gweithwyr), ym mharagraff (6)(c), yn lle “y person” yn yr ail le y mae’n ymddangos rhodder “ef”.

8.  Yn rheoliad 37 (addasrwydd y fangre)—

(a)ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i’r person cofrestredig” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r person cofrestredig”;

(b)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson cofrestredig sy’n darparu gofal dydd drwy ddarpariaeth chwarae mynediad agored..

9.  Yn Atodlen 1, Rhan 1 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant)—

(a)ym mharagraffau 2, 4, a 5 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)yn lle paragraff 6 rhodder—

6.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.;

(c)ym mharagraffau 8, 9, a 10 (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; a

(d)yn lle paragraff 13(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—

13.(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant..

10.  Yn Atodlen 1, Rhan 2 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd)—

(a)ym mharagraffau 15, 17 a 18 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)yn lle paragraff 19 rhodder—

19.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.;

(c)ym mharagraffau 21(a), 21(b), 22 a 23 (gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(d)yn lle paragraff 24 rhodder—

24.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.;

(e)ym mharagraffau 27, 28 a 29 (gofynion mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(f)yn lle paragraff 30 rhodder—

30.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.;

(g)ym mharagraffau 32, 33 a 34 yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac

(h)yn lle paragraff 37(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—

37.(1) >Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant..

11.  Yn Atodlen 2, Rhan 1 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant)—

(a)ym mharagraffau 2(3) a 5(b) (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)ym mharagraff 11(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac

(c)ym mharagraffau 17 a 20(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.

12.  Yn Atodlen 2, Rhan 2 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd)—

(a)ym mharagraffau 22(3) a 22(5)(ch)(ii) (gwybodaeth am y ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)ym mharagraffau 24(3)(a), 24(3)(b) a 24(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(c)ym mharagraffau 25(3) a 25(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am y person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(d)ym mharagraff 34(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac

(e)ym mharagraffau 40 a 46(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i dystysgrif gofrestru gynnwys enw’r person â chyfrifoldeb, pan fo un wedi ei benodi.

Mae rheoliad 8 yn dileu gofynion sy’n ymwneud â darpariaeth chwarae mynediad agored.

Mae rheoliadau 5 a 9 i 12 yn diwygio o ganlyniad i Reoliad Gorchymyn Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 (sy’n estyn gofyniad y rheoliad i bobl sydd wedi cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i ofalu am blant neu ddarparu gofal i blant o dan ddeuddeng mlwydd oed). Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i ddileu’r gofyniad i geisydd gyflwyno cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif cofnod troseddol fanylach ac i Weinidogion Cymru gydlofnodi’r cais hwnnw.

Mae rheoliad 9 a 10 hefyd yn ailddatgan paragraff 13(1) a 37(1) o Atodlen 1 gyda newidiadau er mwyn ei gwneud yn glir pa bersonau sydd rhaid iddynt fod yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad â phlant.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources