Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 845 (Cy. 214)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

16 Awst 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Awst 2016

Yn dod i rym

15 Hydref 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Hydref 2016.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”; a

(b)yn y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Penderfyniad 2006/766””—

(i)yn lle ““Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”)” rhodder ““Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375 ”)”; a

(ii)hepgorer ““Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”)”.

(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE)—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”;

(b)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”);

(c)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”); a

(d)ar ddiwedd yr Atodlen ychwaneger y diffiniad a ganlyn—

““ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(5).”

(4) Yn Atodlen 2 (darpariaethau Cymunedol penodedig)—

(a)yng ngholofn gyntaf y cofnod olaf, yn lle “Reoliad 2073/2005” rhodder “Reoliad 2015/1375”; a

(b)yn ail golofn y cofnod olaf, yn lle’r testun presennol rhodder y testun a ganlyn—

“Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir yn swyddogol eu bod yn cymhwyso amodau tai a reolir roi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw ofyniad o Atodiad IV i Reoliad 2015/1375 nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws Trichinella daliadau.”

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru.

16 Awst 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud amrywiol ddiwygiadau i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)) i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t 7).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o Ddeddf 2008 ac O.S. 2007/1388.

(2)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r gorchymyn dynodi hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014.

(5)

OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t 7.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources