- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 49
1.—(1) Mae Rheoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012(1) mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.LL+C
(2) Rhaid darllen y diffiniad o “arolygydd” (“inspector”) yn rheoliad 2(2) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.
(3) Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.
(4) Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod sylwadau” yn lle “at yr awdurdod sy’n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.
(5) Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.
(6) Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C
(2) Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—
“ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr o dir comin neu gofrestr o feysydd tref neu bentref;”;
“mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;” ac
“mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.
(3) Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—
(a)map Ordnans, ar raddfa nad yw’n llai nag 1: 2,500 os oes un ar gael, a dim llai beth bynnag nag 1:10,000, sy’n dangos—
(i)ffin y tir a ryddheir wedi ei marcio â lliw coch;
(ii)os yw’r tir a ryddheir yn rhan o’r tir mewn uned gofrestr fwy, ffin y tir yn yr uned gofrestr honno wedi ei marcio â lliw gwyrdd tywyll; a
(iii)ffin unrhyw dir cyfnewid wedi ei marcio mewn lliw gwyrdd golau; a
(b)copi o’r cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â’r tir a ryddheir neu’r tir sy’n cynnwys y tir a ryddheir.
(4) Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—
(a)enw’r ceisydd;
(b)enw’r tir comin neu’r maes tref neu bentref yr effeithir arno gan y cynnig;
(c)lleoliad y tir a ryddheir a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;
(d)pa un ai yw’r cais yn cynnwys cynnig ai peidio i gofrestru tir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;
(e)datganiad byr o’r rheswm dros wneud y cais.
(5) Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—
(a)unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sy’n meddiannu’r tir a ryddheir;
(b)meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr fel eiddo y mae hawliau comin ar y tir a ryddheir yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;
(c)unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir a ryddheir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno; a
(d)y cyngor neu’r cynghorau cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi neu ynddynt y tir a ryddheir a’r tir cyfnewid.
(6) Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (e).
(7) Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol:
“(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod yn y prif fannau mynediad i’r canlynol (neu, os nad oes lleoedd o’r fath, mewn man amlwg ar ffin)—
(i)y tir a ryddheir; a
(ii)y tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid).”
(8) Rhaid darllen erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) fel pe bai rhaid hefyd i Weinidogion Cymru—
(a)anfon eu gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 at yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir a ryddheir a’r tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid); a
(b)anfon copi o’r gorchymyn at y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C
(2) Rhaid darllen rheoliad 2 (dehongli)—
(a)fel pe bai cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012 i arfer pob un neu unrhyw rai o’u swyddogaethau o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gyffredinol neu mewn perthynas â’r cais;
(b)fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—
“mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”; ac
“mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.
(3) Rhaid darllen rheoliad 16(1) (arolygiadau safle) fel pe rhoddid “tir a ryddheir ac unrhyw dir cyfnewid” yn lle “tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef”.
(4) At ddiben rheoliad 22 (hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad) rhaid i’r hysbysiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwnnw gynnwys—
(a)lleoliad y tir a ryddheir; a
(b)datganiad a gynigir ai peidio cofrestru unrhyw dir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: