- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru yn unig, yn darparu ar gyfer parhau i weithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L 35, 8.2.2005, t 1), (“Rheoliad 183/2005”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid (OJ Rhif L 54, 26.2.2009, t 1), (“Rheoliad 152/2009”), a hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gweinyddu yn gyffredinol mewn perthynas â chyfraith bwyd anifeiliaid, yn benodol er mwyn rhoi effaith i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â’r gyfraith ei wirio ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid (OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t 1), (“Rheoliad 882/2004”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ymdrin â gweithredu a gorfodi Rheoliad 183/2005, sy’n darparu y dylai bron bob busnes sy’n cynhyrchu neu’n masnachu mewn bwyd anifeiliaid, neu’n ei ddefnyddio, naill ai gael ei gofrestru neu, yn ôl y digwydd, ei gymeradwyo, gan yr awdurdodau cymwys. Mae’r gweithgareddau a eithriwyd, nad yw Rheoliad 183/2005 nac, o ganlyniad, Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn, yn gymwys iddynt, wedi eu nodi yn Erthygl 2 o’r Rheoliad hwnnw ac maent yn cynnwys—
(a)cynhyrchu yn breifat yn y cartref fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nas cedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd neu a gedwir ar gyfer eu bwyta yn breifat yn y cartref yn unig;
(b)bwydo anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd;
(c)bwydo anifeiliaid a gedwir ar gyfer eu bwyta yn breifat yn y cartref neu ar gyfer cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bychain o gynhyrchion crai gan y cynhyrchydd i’r defnyddiwr terfynol neu fanwerthwyr lleol;
(d)cyflenwi, yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd, feintiau bychain o fwyd anifeiliaid, a gynhyrchir fel deunydd crai, i ffermydd lleol i’w ddefnyddio ar y ffermydd hynny; ac
(e)manwerthu bwyd anifeiliaid anwes.
Yn benodol gwneir darpariaeth yn Rhan 2 ar gyfer—
(a)dynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion y gwahanol swyddogaethau a grybwyllir yn Rheoliad 183/2005 (rheoliad 4);
(b)nodi’r darpariaethau hynny o Reoliad 183/2005 y mae methiant i gydymffurfio â hwy yn drosedd (rheoliad 5 ac Atodlen 2);
(c)nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni gan unrhyw un—
(i)sy’n hysbysu’r awdurdod gorfodi gyda’r bwriad o gofrestru sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 6); neu
(ii)sy’n gwneud cais am gymeradwyo sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 7);
(d)gosod y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan awdurdod gorfodi wrth—
(i)atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 8);
(ii)dileu ataliad dros dro ar gofrestriad neu gymeradwyaeth (rheoliad 9); neu
(iii)dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 10);
(e)nodi’r gofynion sydd i’w bodloni gan unrhyw un sy’n gwneud cais i ddiwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth (rheoliad 11);
(f)darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau gorfodi ynghylch cofrestriadau neu gymeradwyaethau (rheoliad 12); ac
(g)pennu’r ffioedd sy’n daladwy gan ymgeisydd am gymeradwyaeth neu am ddiwygio cymeradwyaeth (rheoliad 13 ac Atodlen 3).
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Rheoliad 152/2009 ac yn cynnwys darpariaethau eraill mewn perthynas â samplu a dadansoddi, yn benodol drwy—
(a)gwneud darpariaeth ar gyfer penodi dadansoddwyr amaethyddol a rhagnodi cymwysterau gofynnol ar gyfer person a benodir (rheoliad 14);
(b)gosod y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth gymryd a rhannu samplau ar gyfer eu dadansoddi (rheoliad 15);
(c)darparu ar gyfer dadansoddiad eilaidd o sampl, sydd i’w gyflawni gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 16);
(d)gwneud darpariaeth ar gyfer anfon samplau neu eu traddodi â llaw (rheoliad 17);
(e)rhagnodi ffurf tystysgrif o ddadansoddiad a’i statws fel tystiolaeth (rheoliad 18);
(f)gwneud darpariaeth ar gyfer dulliau dadansoddi pan nad yw’r samplu wedi ei gyflawni yng nghwrs rheolaethau swyddogol (rheoliad 19); ac
(g)gwneud llurgunio sampl neu ymyrryd â sampl rywfodd arall yn drosedd (rheoliad 20).
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â gweithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn, sef yn benodol—
(a)pennu mai dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid, o fewn ei ardal, yw gorfodi’r Rheoliadau (rheoliad 21);
(b)gwneud darpariaeth ar gyfer penodi un neu ragor o bersonau gan Weinidogion Cymru i ymgymryd â swyddogaethau awdurdod bwyd anifeiliaid mewn amgylchiadau penodedig (rheoliad 22(1));
(c)gosod amodau ar arfer pwerau swyddog awdurdodedig y tu allan i ardal awdurdod lleol y swyddog hwnnw (rheoliad 22(2)); a
(d)cyfyngu ar atebolrwydd personol swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu’n ddidwyll (rheoliad 23).
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys pwerau gorfodi a darpariaethau sy’n ymwneud â materion cysylltiedig, sef yn fanwl—
(a)pŵer i swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad gwella pan fo busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig (rheoliad 24);
(b)hawl gweithredwr busnes i apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gwella (rheoliad 25);
(c)yr hawl i wneud apêl bellach i Lys y Goron (rheoliad 26);
(d)materion ychwanegol mewn perthynas ag apelau (rheoliad 27);
(e)darpariaeth y caiff llys osod gorchymyn gwahardd ar weithredwr busnes bwyd anifeiliaid a gollfarnwyd am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig (rheoliad 28);
(f)pŵer i lys ynadon osod gorchymyn gwahardd brys ar weithredwr o dan amodau penodedig ac ar ôl cyflwyno hysbysiad priodol (rheoliad 29);
(g)pwerau i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangreoedd at ddibenion penodedig, ynghyd â phwerau arolygu cysylltiedig etc. (rheoliad 30);
(h)pŵer i swyddog awdurdodedig gadw neu ymafael mewn bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, a gwneud cais i lys ynadon am ddinistrio neu waredu’r bwyd anifeiliaid (rheoliad 31);
(i)nifer o droseddau mewn perthynas ag arfer pwerau gorfodi (rheoliad 32);
(j)darpariaeth ar gyfer adennill gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod gorfodi wrth ymdrin â methiant i gydymffurfio (rheoliad 33);
(k)y cosbau mwyaf y caiff llys eu gosod am droseddau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 34);
(l)amddiffyniadau rhag troseddau o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig (rheoliad 35);
(m)darpariaeth y caiff personau cyfrifol o fewn cyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd, mewn amgylchiadau penodedig, fod yn atebol yn bersonol am droseddau a gyflawnir gan y cyrff hynny (rheoliad 36);
(n)darpariaethau ynglŷn ag ym mhle y caniateir dwyn achos am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig a’r terfynau amser ar gyfer cychwyn erlyniad o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 37); ac
(o)gofynion o ran cyflwyno hysbysiadau (rheoliad 38).
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (rheoliad 39) ac yn dirymu rheoliadau penodol eraill (rheoliad 40 ac Atodlen 5).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu o wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: