Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 102 (Cy. 50)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

28 Ionawrr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Chwefror 2016

Yn dod i rym

31 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(1), 24 a 123(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Mawrth 2016.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003(2).

Diwygio Rheoliadau 2003

2.  Mae Rheoliadau 2003 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

Arferion cyfrifyddu

3.  Ar ôl rheoliad 25 o Reoliadau 2003 mewnosoder—

25A.    Accounting treatment of loans from the Public Works Loan Board drawn down on 2 April 2015

(1) This regulation applies to loans for the purpose of funding the settlement payment to exit the HRA Subsidy system—

(a)given to local authorities by the Public Works Loan Board; and

(b)drawn down on 2 April 2015.

(2) Where the interest rates applicable to the loans specified in paragraph (1) are agreed at a rate of interest which is other than the prevailing market rate of interest set on 2 April 2015, a local authority is not required to recognise in its revenue account any difference from the prevailing market rate for the purpose of fair value.

(3) Interest payable on a loan specified in paragraph (1) must be recognised in a local authority revenue account on the day when, or as soon as practicable after, a local authority becomes liable to pay that interest.

(4) This regulation applies to the financial years beginning on and after 1 April 2015.

(5) In this regulation—

“fair value” means the price that would be received to sell an asset or paid to transfer a liability in an orderly transaction between market participants at the measurement date, in accordance with proper practices as defined in regulation 25;

“HRA Subsidy” means the system established under section 79 of the Local Government and Housing Act 1989(3).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

28 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fframwaith cyfreithiol y caiff llywodraeth leol ymgymryd â gwariant cyfalaf oddi mewn iddo. Yng Nghymru, caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio’r gweithgarwch hwnnw drwy reoliadau. Gwnaed darpariaeth o’r fath gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239 (Cy. 319)) (“Rheoliadau 2003”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac wedi hynny.

O dan arferion cyfrifyddu priodol mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fesur asedau a rhwymedigaethau ariannol ar sail gwerth teg. Ystyr gwerth teg yw’r pris y byddid yn ei gael wrth werthu ased neu a delid wrth drosglwyddo rhwymedigaeth mewn trafodiad trefnus rhwng cyfranogwyr yn y farchnad ar y dyddiad mesur.

Pan gytunir ar fenthyciad ar sail gwerth sy’n wahanol i’r gwerth teg yna rhaid cydnabod y gwahaniaeth rhwng y swm a fenthyciwyd a’r gwerth teg yng nghyfrif refeniw awdurdod lleol. Mae’r arferion cyfrifyddu priodol yn nodi y gallai methiant i gydnabod y gwahaniaeth rhwng y symiau hynny arwain at gyflwyno barn amodol ar gyfrif refeniw.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael gwared ar y gofyniad i awdurdodau lleol gydnabod, mewn cyfrif refeniw, y gwahaniaeth rhwng gwerth teg a’r gwerth y cytunwyd arno ar gyfer y benthyciadau a gafodd yr awdurdodau lleol hynny yng Nghymru sydd â stoc dai gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (“BBGC”).

Sefydlwyd y system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (“CCRT”) yn wreiddiol er mwyn galluogi Llywodraeth y DU i ddynodi pa gymorth ariannol oedd ei angen ar awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr er mwyn rheoli eu tai cyngor. Ym mis Ebrill 2015 ymunodd yr un awdurdod lleol ar ddeg a oedd â stoc dai yng Nghymru â chynllun prynu allan, gan ymadael â’r system CCRT drwy ddefnyddio benthyciadau’r BBGC. Mae prynu allan o’r CCRT yn rhoi rhyddid newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru wella tai ac adeiladu tai newydd. Unwaith y bydd darpariaethau perthnasol Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dod i rym, bydd y system CCRT yn cael ei diddymu o ran Cymru.

Cafodd y benthyciadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt eu tynnu i lawr ar 2 Ebrill 2015 er mwyn prynu allan o’r CCRT. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw rwymedigaethau eraill sy’n perthyn i awdurdod lleol.

Yn unol â’r diwygiad a wneir gan reoliad 3, rhaid cydnabod y llog sy’n daladwy ar fenthyciadau’r BBGC yng nghyfrif refeniw awdurdod lleol ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn dod yn atebol am y llog hwnnw, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o’r Rheoliadau hyn.

(1)

2003 p. 26. Diwygiwyd adran 24 gan adran 238(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28). Mae’r pwerau o dan adran 21(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fel y’i diwygiwyd. Roedd y pwerau wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.

(3)

1989 (p. 42) . Bydd adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn cael ei diddymu o ran Cymru gan adran 131(2) a (3)(a) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources