Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2015.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 196
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “aelod a ddiogelir” (“protected member”), mewn perthynas â chynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw aelod diogelwch llawn neu aelod diogelwch taprog o un o’r cynlluniau hynny;
ystyr “aelod a ddiogelir yn llawn” (“fully protected member”) o gynllun presennol neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yw person y mae eithriad yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, sef eithriad y mae adran 18(6) o Ddeddf 2013(1) (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo at ddibenion y cynllun hwnnw;
mae i “aelod actif o Gynllun 1992 neu o CPNDT” (“active member of the 1992 Scheme or the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;
mae i “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“active member of an existing public body pension scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 7;
mae i “aelod actif o gynllun presennol” (“active member of an existing scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 6;
mae i “aelod diogelwch llawn” (“full protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 9;
mae i “aelod diogelwch taprog” (“tapered protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 15;
ystyr “aelod trosiannol” (“transition member”) yw person—
sy’n aelod o Gynllun 1992 neu CPNDT yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw, neu sy’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, cyn y dyddiad trosiant, a
sy’n aelod o’r cynllun hwn yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy y person o dan y cynllun hwn;
mae i “cyfnod diogelwch” (“protection period”)—
yn achos aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 10, a
yn achos aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 16;
mae i “cymwys i fod yn aelod actif o CPNDT” (“eligible to be an active member of the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4;
ystyr “cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“existing public body pension scheme”) yw cynllun pensiwn corff cyhoeddus y mae adran 31 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;
ystyr “dyddiad cau” (“closing date”)—
mewn perthynas â chynllun presennol, yw’r dyddiad y cyfeirir ato yn adran 18(4)(a) neu (b) o Ddeddf 2013, yn ôl fel y digwydd,
mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw’r dyddiad a benderfynir o dan adran 31(2) o Ddeddf 2013 gan y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw, ac
mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—
os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, neu
os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o un o’r cynlluniau hynny, dyddiad cau’r cynllun;
mae i “dyddiad cau diogelwch taprog” (“tapered protection closing date”), mewn perthynas ag aelod diogelwch taprog o gynllun presennol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;
ystyr “dyddiad cau’r cynllun” (“scheme closing date”) yw 31 Mawrth 2015;
ystyr “dyddiad trosiant” (“transition date”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—
os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, a
os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun, neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y peidiodd y person â bod yn aelod a ddiogelir o’r cynllun hwnnw;
ystyr “eithriad” (“exception”) yw—
mewn perthynas â chynllun presennol, eithriad o dan adran 18(5) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau cynllun ar gyfer y cynllun hwnnw,
mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, eithriad o dan adran 31(4) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer gan yr awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Mae gan aelod trosiannol (T) barhad gwasanaeth rhwng gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, a gwasanaeth pensiynadwy yn y cynllun hwn, onid oes bwlch yng ngwasanaeth T o fwy na phum mlynedd sy’n—
(a)dechrau ar neu cyn dyddiad trosiant T; a
(b)yn diweddu ar y diwrnod y daw T yn aelod actif o’r cynllun hwn.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw T mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo T mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol, cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, cynllun o dan adran 1 o Ddeddf 2013 neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl Cynllun 1992 yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl CPNDT yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.
(3) Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT y mae paragraff 9(5) neu 21 yn gymwys iddo yw dyddiad a benderfynir gan y rheolwr cynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad penodol os, ar y dyddiad hwnnw, nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 nac o dan CPNDT, a naill ai—
(a)bod P mewn gwasanaeth fel diffoddwr tân sy’n rhoi i P yr hawl i fod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT; neu
(b)bod P mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth pensiynadwy.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—
(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu CPNDT; neu
(b)mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun presennol(2) (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—
(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu
(b)mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun presennol nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—
(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu
(b)mewn bwlch yn ei wasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol nid yw P mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac nad oes ganddo barhad gwasanaeth, yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn ar y diwrnod y mae’r person hwnnw’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun.
(2) Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, a chanddo barhad gwasanaeth (T), yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn—
(a)os yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y dyddiad hwnnw; neu
(b)os nad yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y diwrnod y mae T yn dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar ôl y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 12 i 14 yn gymwys yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd.
(2) Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd, pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ac yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a
(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.
(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT—
(a)rhywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a
(b)ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.
(5) Os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT mewn amgylchiadau pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, mae P yn aelod diogelwch taprog o CPNDT pan fo P yn dychwelyd i’r gwasanaeth hwnnw.
(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a
(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.
(7) At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Y cyfnod diogelwch ar gyfer person (P) sy’n aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, yw’r cyfnod sydd—
(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a
(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT (onid yw P yn aelod diogelwch taprog yn rhinwedd paragraff 9(5)).
(2) Yn ystod y cyfnod diogelwch—
(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, neu os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;
(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac
(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
11. Tra bo person (P) yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;
(b)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar 31 Mawrth 2012; ac
(c)os yw P—
(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992(3), ar neu cyn 1 Ebrill 2022; neu
(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT(4), ar neu cyn 1 Ebrill 2022.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;
(b)os oedd P yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac
(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
13. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;
(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;
(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;
(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac
(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
14. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;
(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;
(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;
(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac
(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 18 i 21 yn gymwys iddo yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.
(2) Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ba un bynnag o’r diwrnodau canlynol sy’n digwydd gyntaf—
(a)dyddiad cau diogelwch taprog P; neu
(b)y diwrnod y mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu os yw’n ddiweddarach, yn peidio â bod yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu is-baragraff (4) yn gymwys.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw P, cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a
(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.
(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P—
(a)cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT rywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a
(b)yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Y cyfnod diogelwch ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT yw’r cyfnod sydd—
(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a
(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.
(2) Yn ystod y cyfnod diogelwch—
(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT neu, os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;
(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac
(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
17. Tra bo person (P) yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;
(b)os oedd P, ar 31 Mawrth 2012, yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT; ac
(c)os yw P—
(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026; neu
(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT), neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;
(b)os oedd P yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac
(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—
(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a
(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
19. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;
(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;
(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;
(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac
(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—
(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a
(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
20. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;
(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;
(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;
(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac
(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—
(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a
(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
21. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os byddai paragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon wedi bod yn gymwys oni bai am y ffaith na fyddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, y cyfeirir ato ym mharagraff 13(c) neu 14(c), yn ôl fel y digwydd, (“y cynllun sy’n trosglwyddo”) ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT; a
(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun sy’n trosglwyddo yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun sy’n trosglwyddo ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 Rhn. 3 mewn grym ar 1.4.2015, gweler rhl. 1(2)
| Dyddiad geni o | Dyddiad geni i | Dyddiad y daw diogelwch i ben |
|---|---|---|
| 02/04/1967 | 01/05/1967 | 31/03/2022 |
| 02/05/1967 | 01/06/1967 | 06/02/2022 |
| 02/06/1967 | 01/07/1967 | 14/12/2021 |
| 02/07/1967 | 01/08/1967 | 23/10/2021 |
| 02/08/1967 | 01/09/1967 | 29/08/2021 |
| 02/09/1967 | 01/10/1967 | 06/07/2021 |
| 02/10/1967 | 01/11/1967 | 15/05/2021 |
| 02/11/1967 | 01/12/1967 | 21/03/2021 |
| 02/12/1967 | 01/01/1968 | 28/01/2021 |
| 02/01/1968 | 01/02/1968 | 05/12/2020 |
| 02/02/1968 | 01/03/1968 | 11/10/2020 |
| 02/03/1968 | 01/04/1968 | 22/08/2020 |
| 02/04/1968 | 01/05/1968 | 28/06/2020 |
| 02/05/1968 | 01/06/1968 | 07/05/2020 |
| 02/06/1968 | 01/07/1968 | 14/03/2020 |
| 02/07/1968 | 01/08/1968 | 21/01/2020 |
| 02/08/1968 | 01/09/1968 | 28/11/2019 |
| 02/09/1968 | 01/10/1968 | 05/10/2019 |
| 02/10/1968 | 01/11/1968 | 13/08/2019 |
| 02/11/1968 | 01/12/1968 | 20/06/2019 |
| 02/12/1968 | 01/01/1969 | 28/04/2019 |
| 02/01/1969 | 01/02/1969 | 05/03/2019 |
| 02/02/1969 | 01/03/1969 | 10/01/2019 |
| 02/03/1969 | 01/04/1969 | 22/11/2018 |
| 02/04/1969 | 01/05/1969 | 29/09/2018 |
| 02/05/1969 | 01/06/1969 | 07/08/2018 |
| 02/06/1969 | 01/07/1969 | 14/06/2018 |
| 02/07/1969 | 01/08/1969 | 22/04/2018 |
| 02/08/1969 | 01/09/1969 | 27/02/2018 |
| 02/09/1969 | 01/10/1969 | 04/01/2018 |
| 02/10/1969 | 01/11/1969 | 12/11/2017 |
| 02/11/1969 | 01/12/1969 | 19/09/2017 |
| 02/12/1969 | 01/01/1970 | 29/07/2017 |
| 02/01/1970 | 01/02/1970 | 04/06/2017 |
| 02/02/1970 | 01/03/1970 | 11/04/2017 |
| 02/03/1970 | 01/04/1970 | 21/02/2017 |
| 02/04/1970 | 01/05/1970 | 29/12/2016 |
| 02/05/1970 | 01/06/1970 | 06/11/2016 |
| 02/06/1970 | 01/07/1970 | 13/09/2016 |
| 02/07/1970 | 01/08/1970 | 23/07/2016 |
| 02/08/1970 | 01/09/1970 | 29/05/2016 |
| 02/09/1970 | 01/10/1970 | 05/04/2016 |
| 02/10/1970 | 01/11/1970 | 13/02/2016 |
| 02/11/1970 | 01/12/1970 | 20/12/2015 |
| 02/12/1970 | 01/01/1971 | 29/10/2015 |
| 02/01/1971 | 01/02/1971 | 05/09/2015 |
| 02/02/1971 | 01/03/1971 | 12/07/2015 |
| 02/03/1971 | 01/04/1971 | 24/05/2015 |
| Dyddiad geni o | Dyddiad geni i | Dyddiad y daw diogelwch i ben |
|---|---|---|
| 02/04/1962 | 01/05/1962 | 31/03/2022 |
| 02/05/1962 | 01/06/1962 | 06/02/2022 |
| 02/06/1962 | 01/07/1962 | 14/12/2021 |
| 02/07/1962 | 01/08/1962 | 23/10/2021 |
| 02/08/1962 | 01/09/1962 | 29/08/2021 |
| 02/09/1962 | 01/10/1962 | 06/07/2021 |
| 02/10/1962 | 01/11/1962 | 15/05/2021 |
| 02/11/1962 | 01/12/1962 | 21/03/2021 |
| 02/12/1962 | 01/01/1963 | 28/01/2021 |
| 02/01/1963 | 01/02/1963 | 05/12/2020 |
| 02/02/1963 | 01/03/1963 | 11/10/2020 |
| 02/03/1963 | 01/04/1963 | 23/08/2020 |
| 02/04/1963 | 01/05/1963 | 30/06/2020 |
| 02/05/1963 | 01/06/1963 | 09/05/2020 |
| 02/06/1963 | 01/07/1963 | 15/03/2020 |
| 02/07/1963 | 01/08/1963 | 23/01/2020 |
| 02/08/1963 | 01/09/1963 | 30/11/2019 |
| 02/09/1963 | 01/10/1963 | 06/10/2019 |
| 02/10/1963 | 01/11/1963 | 15/08/2019 |
| 02/11/1963 | 01/12/1963 | 22/06/2019 |
| 02/12/1963 | 01/01/1964 | 30/04/2019 |
| 02/01/1964 | 01/02/1964 | 07/03/2019 |
| 02/02/1964 | 01/03/1964 | 12/01/2019 |
| 02/03/1964 | 01/04/1964 | 22/11/2018 |
| 02/04/1964 | 01/05/1964 | 29/09/2018 |
| 02/05/1964 | 01/06/1964 | 07/08/2018 |
| 02/06/1964 | 01/07/1964 | 14/06/2018 |
| 02/07/1964 | 01/08/1964 | 22/04/2018 |
| 02/08/1964 | 01/09/1964 | 27/02/2018 |
| 02/09/1964 | 01/10/1964 | 04/01/2018 |
| 02/10/1964 | 01/11/1964 | 12/11/2017 |
| 02/11/1964 | 01/12/1964 | 19/09/2017 |
| 02/12/1964 | 01/01/1965 | 29/07/2017 |
| 02/01/1965 | 01/02/1965 | 04/06/2017 |
| 02/02/1965 | 01/03/1965 | 11/04/2017 |
| 02/03/1965 | 01/04/1965 | 21/02/2017 |
| 02/04/1965 | 01/05/1965 | 29/12/2016 |
| 02/05/1965 | 01/06/1965 | 06/11/2016 |
| 02/06/1965 | 01/07/1965 | 13/09/2016 |
| 02/07/1965 | 01/08/1965 | 23/07/2016 |
| 02/08/1965 | 01/09/1965 | 29/05/2016 |
| 02/09/1965 | 01/10/1965 | 05/04/2016 |
| 02/10/1965 | 01/11/1965 | 13/02/2016 |
| 02/11/1965 | 01/12/1965 | 20/12/2015 |
| 02/12/1965 | 01/01/1966 | 29/10/2015 |
| 02/01/1966 | 01/02/1966 | 05/09/2015 |
| 02/02/1966 | 01/03/1966 | 12/07/2015 |
| 02/03/1966 | 01/04/1966 | 24/05/2015 |
Diwygiwyd adran 18(6) gan adran 52(3) o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19).
Gweler adran 18(2) o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “existing scheme”.
S.I. 1992/129: mae rheol A13 yn darparu mai’r oedran pensiwn arferol yw 55 ac mae rheol B1 yn galluogi diffoddwyr tân rheolaidd dros 50 oed i ymddeol unwaith y gallant gyfrif o leiaf 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy. Amnewidiwyd rheol A13 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2006/1672. Amnewidiwyd rheol B1 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2005/566 a 2014/3242.
O.S. 2007/1072 (Cy. 110): mae rheol 3(1) o Ran 2 yn darparu mai oedran ymddeol arferol aelodau sy’n ddiffoddwyr tân yw 60.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: