- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B i’r Ddeddf honno.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau a fydd yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn pennu pa faterion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn pennu cynllun a fydd yn cael effaith mewn perthynas ag anheddau yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diffiniad diwygiedig a fewnosodir gan reoliadau 3(a) a 15(a) yn ymwneud â newidiadau a wnaed gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (“Deddf 2012”). O dan Ddeddf 2012 ni fydd y lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm bellach yn cynnwys lwfans cyfrannol a lwfans yn seiliedig ar incwm ar wahân, ond dim ond lwfans cyfrannol a elwir yn “lwfans cyflogaeth a chymorth”. Mae’r diffiniad diwygiedig yn cynnwys y lwfans cyflogaeth a chymorth a ddarperir o dan Ddeddf Diwygio Lles 2007 a’r lwfans newydd a ddarperir o dan Ddeddf 2012. Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 7(e)(i), 9, 10(d) ac (e)(i), 11(e), (h) ac (i), 12 a 13 yn diweddaru’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i gynnwys cyfeiriadau at Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013. Mae rheoliadau 24, 25(a), 26, 28(e) ac (h), 29 a 30 yn diwygio’r Rheoliadau Cynllun Diofyn at yr un diben.
Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(b), 4, 7(b), (c), (d), (e)(ii) a (iii), 10(b), (c), (e)(ii) a (iii) o ganlyniad i Ran 7 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawlogaethau newydd o ran rhannu absenoldeb rhiant a rhannu tâl rhiant yn lle absenoldeb tadolaeth ychwanegol a thâl tadolaeth ychwanegol. Mae rheoliadau 15(b) ac (c), 16, 19, 20, 21, 22, 23, 25(b) ac (c) yn gwneud yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. O dan reoliad 18, cyn diwygio cynllun, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio gyhoeddi’r cynllun drafft ac ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yng ngweithrediad y cynllun. Mae’r diwygiad yn dileu’r gofyniad i gyhoeddi cynllun drafft ac i ymgynghori â phersonau a chanddynt fuddiant pan fo awdurdod yn diwygio cynllun i gymryd ystyriaeth o ddiwygiadau a wnaed i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig sy’n rhagnodi personau nad ydynt o Brydain Fawr yn ddosbarth o berson na chaniateir ei gynnwys mewn gostyngiad ac nad oes ganddo hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod. Mae’r diwygiad yn rhagnodi bod person sy’n cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm ac y mae ei unig hawl i breswylio yn dod o fewn y categorïau a bennir yn rheoliad 28(4) o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn berson i’w drin fel pe nad yw’n dod o Brydain Fawr. Mae rheoliad 17 yn gwneud diwygiad i’r perwyl hwnnw i baragraff 19 o’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 6 ac 17 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth trosiannol a wneir yn rheoliad 31.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan rheoliadau 7(a)(i) i (v), 8, 10(a)(i) i (v), ac 11(a) i (d), (f) ac (g) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawlogaeth i gael gostyngiad ai peidio, a swm unrhyw ostyngiad. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan y ceisydd i’w gael). Gwnaed yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(a) i (e), 27 a 28(a) i (d), (f) ac (g).
Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 7(a)(vi) a (vii), a 10(a)(vi) a (vii) yn mewnosod cyfeiriadau at gredyd cynhwysol i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig pan fo cyfeiriadau eisoes at fudd-daliadau eraill yn seiliedig ar incwm. Mae rheoliadau 18(f) a (g) yn mewnosod y cyfeiriadau hynny i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: