- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â physgota, glanio a gwerthu cramenogion penodedig, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu, a meddu arnynt at ddiben eu gwerthu a’u cludo yng Nghymru ac ym mharth Cymru.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu, yn disodli ac yn ail-wneud â diwygiadau ddarpariaethau Gorchymyn Crancod Rhy Fach 1986 (O.S. 1986/497), Gorchymyn Crancod Llygatgoch Rhy Fach 1989 (O.S. 1989/919), Gorchymyn Crancod Rhy Fach (Amrywio) 1989 (O.S. 1989/2443), Gorchymyn Cimychiaid Rhy Fach 1993 (O.S. 1993/1178), Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) 2000 (O.S. 2000/874), Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/676 (Cy. 73)) a Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1897 (Cy. 198)). Mae paragraffau (1) i (3) o erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y dirymiadau angenrheidiol.
Nid yw darpariaethau’r is-ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod ac sy’n darparu pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig yn cael eu hatgynhyrchu yn y Gorchymyn hwn oherwydd mai Swyddogion Gorfodi Morol sydd bellach yn gorfodi’r darpariaethau sydd wedi eu cydgrynhoi yn y Gorchymyn hwn (yn unol â phwerau a welir yn Rhan 8 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)) ac nid swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn dirymu, yn disodli ac yn ail-wneud â diwygiadau Is-ddeddfau 3 (Cimychiaid - Maint lleiaf), 5 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V), 6 (Crancod - Maint lleiaf), 7 (Cimychiaid Cochion - Maint lleiaf) a 46 (Rhannau o Bysgod Cregyn Cramennog) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (“SWSFC”) ac Is-ddeddfau 29 (Maint lleiaf Cimychiaid) a 31 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (“NWNWSFC”). Mae paragraffau (4) a (5) o erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y dirymiadau angenrheidiol. Ail-wneir amryw rannau o Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig) y cyn NWNWSFC hefyd yn y Gorchymyn hwn a gwneir diwygiadau canlyniadol i’r Is-ddeddf honno (erthygl 7(7)).
Diddymwyd yr SWSFC a’r NWNWSFC, mewn perthynas â Chymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38) gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Er 1 Ebrill 2010, mae’r Is-ddeddfau y cyfeiriwyd atynt uchod wedi cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi eu gwneud drwy offeryn statudol yn rhinwedd paragraffau (1) a (3) o erthygl 13 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlenni 3 a 4 i’r Gorchymyn hwnnw. Mae erthygl 7(6) o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Orchymyn 2010.
Mae erthygl 3(1) o’r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgota am gimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog o dan feintiau lleiaf penodedig yng Nghymru. Mae hefyd yn gwahardd pysgota yng Nghymru ac ym mharth Cymru am grancod llygatgoch o dan faint lleiaf penodedig ac unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V, nac unrhyw gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V. Caiff llongau tramor eu hesemptio o’r gwaharddiad ar bysgota a osodir gan erthygl 3(1) (erthygl 3(2)).
Dilynir cynlluniau gwirfoddol o bryd i’w gilydd pryd y bydd pysgotwyr yn torri hollt ar ffurf V yng nghynffon cimwch neu gimwch coch penodol cyn rhoi’r anifail perthnasol yn ôl yn y môr. Cimychesau wyog neu anifeiliaid sydd ychydig yn llai na’r maint glanio lleiaf yw’r anifeiliaid hyn yn aml. Bydd erthygl 3(1)(g), (h) ac (i) o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod yr anifeiliaid hynny yn cael eu gwarchod dros dro, gan ganiatáu i’r anifail silio a chyfrannu ymhellach at stoc y rhywogaeth honno nes i’r hollt ddiflannu wrth i’r anifail dyfu.
Yn rhinwedd adran 5(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 (p. 84) (“Deddf 1967”) mae’n drosedd pysgota am y pysgod môr a bennir yn erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn. Pan ddefnyddir cwch pysgota mewn cysylltiad â’r drosedd honno, bydd capten, perchennog a siartrwr (os oes un) y cwch pysgota hwnnw i gyd yn euog o drosedd. Mae adran 5(6) o’r Ddeddf honno’n darparu bod yn rhaid i unrhyw bysgod môr a bennir yn erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, pan gânt eu dal, gael eu gollwng yn ôl i’r môr ar unwaith (yn ddarostyngedig i adran 9 o Ddeddf 1967). Darpara adran 5(7) y bydd y capten, y perchennog a’r siartrwr (os oes un) i gyd yn euog o drosedd pan na chydymffurfir ag is-adran (6). Rhagnodir y cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967.
Mae erthygl 4(1) o’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi meintiau lleiaf ar gyfer glanio cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion, crancod heglog a chrancod llygatgoch yng Nghymru. Ceir esemptiad o’r maint glanio lleiaf ar gyfer glanio’r pysgod môr a bennir yn erthygl 4(1) o longau tramor (erthygl 4(2)). Mae adran 1(1) o Ddeddf 1967 yn gwahardd glanio’r rhywogaethau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran maint lleiaf. Rhagnodir y troseddau a’r cosbau gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf 1967.
Mae erthygl 4(3) yn gwahardd glanio yng Nghymru unrhyw gimwch coch neu gimwch sydd â hollt V neu unrhyw gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V. Mae hefyd yn gwahardd glanio unrhyw grafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch yng Nghymru. Caiff llongau tramor eu hesemptio o’r gwaharddiad a osodir yn erthygl 4(3) (erthygl 4(4)).
Yn rhinwedd adran 6(1) o Ddeddf 1967 mae’n drosedd glanio’r cimychiaid cochion, y cimychiaid na’r rhannau o grancod a bennir yn erthygl 4(3). Rhagnodir y cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967.
Mae erthygl 5(1) o’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi meintiau lleiaf ar gyfer gwerthu cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion, crancod heglog a chrancod llygatgoch, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu neu feddu arnynt at ddiben eu gwerthu yng Nghymru. Ceir esemptiad ar gyfer gwerthu etc. y rhywogaethau a bennir sydd o dan y maint lleiaf o longau tramor (erthygl 5(2)). Mae adran 1(2) o Ddeddf 1967 yn gwahardd gwerthu etc. y rhywogaethau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran y maint lleiaf a nodir gan erthygl 5(1). Rhagnodir y troseddau a’r cosbau gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf 1967.
Mae erthygl 5(3) yn gwahardd gwerthu unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V, neu unrhyw gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V neu unrhyw grafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu. Ceir esemptiad ar gyfer gwerthu etc. y cyfryw gimychiaid cochion, cimychiaid neu rannau o grancod o longau tramor (erthygl 5(4)).
Rhagnodir y troseddau a’r cosbau mewn perthynas â gwerthu etc. y cyfryw gimychiaid cochion neu gimychiaid yn groes i erthygl 5(3) yn adrannau 190 a 191 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).
Mae erthygl 6(1) o’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi meintiau lleiaf ar gyfer cludo cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog ar gychod pysgota Prydeinig yng Nghymru. Mae hefyd yn rhagnodi maint lleiaf crancod llygatgoch y caniateir eu cludo ar gychod pysgota Prydeinig yng Nghymru ac ym mharth Cymru. Mae adran 1(3) o Ddeddf 1967 yn gwahardd cludo’r rhywogaethau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran maint lleiaf a ragnodir gan erthygl 6(1) o’r Gorchymyn hwn yn yr ardal berthnasol. Rhagnodir y troseddau a’r cosbau gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf 1967.
Mae erthygl 6(2) yn gwahardd cludo ar unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V, neu unrhyw gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V. Mae hefyd yn gwahardd cludo ar unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru unrhyw grafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch. Rhagnodir y troseddau a’r cosbau mewn perthynas â chludo’r cyfryw gimychiaid cochion, cimychiaid neu grafangau neu rannau datgysylltiedig eraill o’r crancod a bennir yn groes i erthygl 6(2) yn adrannau 190 a 191 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).
Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y diwygiadau canlyniadol a’r dirymiadau angenrheidiol mewn perthynas ag O.S. 1986/497, O.S. 1989/919, O.S. 1989/2443, O.S. 1993/1178, O.S. 2000/874, O.S. 2002/676 (Cy. 73), O.S. 2002/1897 (Cy. 198) ac Is-ddeddfau 3 (Cimychiaid – Maint lleiaf), 5 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V), 6 (Crancod – Maint lleiaf), 7 (Cimychiaid Cochion – Maint lleiaf) a 46 (Rhannau o Bysgod Cregyn Cramennog) y cyn SWSFC ac Is-ddeddfau 19 (Meintiau Pysgod Penodedig), 29 (Maint lleiaf Cimychiaid) a 31 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V) y cyn NWNWSFC.
Pennir meintiau lleiaf ar gyfer cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog gan Erthygl 17 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ac Atodiad XII iddo ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i warchod organeddau morol ifanc (OJ Rhif L 125, 24.04.98, t. 1) (“Rheoliad y Cyngor”). Mae Erthygl 19(1) o Reoliad y Cyngor yn darparu na chaniateir cadw organeddau morol sy’n llai na’r meintiau lleiaf penodedig ar fwrdd llong na’u trosglwyddo i long arall, eu glanio, eu cludo, eu storio, eu gwerthu, eu harddangos na’u cynnig i’w gwerthu a bod yn rhaid eu gollwng yn ôl i’r môr ar unwaith.
Darpara Erthygl 18(3) o Reoliad y Cyngor mai dim ond cadw cimychiaid a chimychiaid cochion (a rhywogaethau penodedig eraill) ar fwrdd llong a’u glanio’n gyflawn a ganiateir.
Gwneir y Gorchymyn hwn yn ddibynnol ar Erthygl 46(1) o Reoliad y Cyngor, sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i gymryd rhai camau technegol cenedlaethol o ran cadwraeth stociau a’u rheoli.
Bydd y cyfyngiadau o ran meintiau lleiaf a osodwyd gan Erthygl 17 o Reoliad y Cyngor ac Atodiad XII iddo yn parhau i fod yn gymwys yn y rhan o barth Cymru sy’n ymestyn y tu hwnt i Gymru. Bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor drwy gyflwyno meintiau lleiaf is ar gyfer cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog yn y môr tiriogaethol gerllaw Cymru. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cyflwyno camau i warchod y cranc llygatgoch (drwy osod maint lleiaf ar gyfer pysgota, glanio, gwerthu a chludo ledled Cymru a pharth Cymru) a’r cranc gwyrdd (drwy wahardd glanio neu gludo rhannau datgysylltiedig o grancod gwyrddion yng Nghymru).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, Is-adran y Môr a Physgodfeydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: