- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn a’r terfynau amser mewn cysylltiad â phenderfynu ceisiadau rhagnodedig penodol a atgyfeirir at Weinidogion Cymru ac apelau (rheoliad 2) pan fo’r materion i gael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig.
Maent yn dirymu ac yn disodli, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”), yn ddarostyngedig i rai darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
Y prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau yw cyflwyno gweithdrefn newydd a hwylusach yn Rhan 1 o’r Rheoliadau. Mae hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 319B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) fod apêl deiliad tŷ, neu apêl ynghylch caniatâd hysbyseb neu apêl fasnachol fach, i’w thrin ar sail sylwadau ysgrifenedig.
Mewnosodwyd adran 319B o’r Ddeddf ac adran 88E o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014.
Mae pŵer gan Weinidogion Cymru o dan adran 319B o’r Ddeddf ac adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig i bennu’r weithdrefn sydd i’w defnyddio i benderfynu ceisiadau penodol a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apelau a wneir o dan y Ddeddf a’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig.
Gall y weithdrefn a fabwysiedir fod mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
Pan fo Rhan 1 o’r Rheoliadau yn gymwys, y prif newidiadau yn y weithdrefn yw’r canlynol—
(a)bod rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon holiadur cyflawn a’r dogfennau cysylltiedig o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau (rheoliad 5);
(b)hysbysir y partïon sydd â buddiant ynglŷn â’r apêl a rhoddir cyfle iddynt dynnu’n ôl unrhyw sylwadau a wnaethant mewn perthynas â’r cais, ond ni roddir cyfle iddynt wneud unrhyw sylwadau pellach mewn perthynas â’r apêl (rheoliad 6);
(c)ni roddir cyfle i’r apelydd nac i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno eu sylwadaethau ar sylwadau’r naill â’r llall (rheoliad 7); a,
(d)caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i wneud penderfyniad ynghylch apêl gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau hynny, yn unig, a gyflwynwyd o fewn y terfynau amser perthnasol os yw’n ymddangos bod deunydd digonol i’w galluogi i gyrraedd penderfyniad, ac ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny (rheoliad 10).
Caiff Gweinidogion Cymru, pan fo’n briodol, drosglwyddo apêl o’r gweithdrefnau Rhan 1 a pharhau i ymdrin â hi o dan Ran 2 (rheoliad 9). Os penderfynir na ddylai apêl fynd ymlaen ymhellach ar sail sylwadau ysgrifenedig, caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dilynol o dan adran 319B(4) o’r Ddeddf neu adran 88E(4) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig i amrywio’r penderfyniad gwreiddiol ynglŷn â’r weithdrefn, er mwyn ystyried yr apêl naill ai mewn ymchwiliad lleol neu mewn gwrandawiad (rheoliad 3).
Gwneir mân newidiadau i Reoliadau 2003, a ddisodlir bellach gan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ a hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: