Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 5Troseddau a chosbau

Cydymffurfio â gofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid

17.  Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cyflawni trosedd.

Rhwystro

18.  Mae’n drosedd—

(a)rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol;

(b)methu â rhoi unrhyw wybodaeth neu gymorth i berson awdurdodedig neu fethu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae’n rhesymol i berson o’r fath ofyn amdanynt, a hynny heb achos rhesymol;

(c)rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i berson awdurdodedig yn fwriadol neu’n ddi-hid; neu

(d)methu â dangos cofnod neu ddogfen pan fo person awdurdodedig yn gofyn amdanynt.

Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig

19.—(1Pan fo—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol neu gan bartneriaeth neu gan bartneriaeth Albanaidd neu gan gymdeithas anghorfforedig arall; a

(b)y profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unigolyn perthnasol, neu ei bod i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unigolyn perthnasol (gan gynnwys unigolyn sy’n honni ei fod yn gweithredu yn swyddogaeth unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth, y bartneriaeth Albanaidd neu’r gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac mae’n agored i achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” yw—

(a)o ran corff corfforaethol—

(i)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

(ii)pan fo materion y corff yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod;

(b)o ran partneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd, partner;

(c)o ran cymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth Albanaidd, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4At ddibenion achos yn unol â pharagraff (3) mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

(a)rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau;

(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(1); ac

(c)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(2).

(5Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

Cosbau

20.  Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, neu’r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, neu’r ddau.

(1)

1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55) adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, Rhan 2, paragraff 19; diddymwyd is-adran (4) yn rhannol gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39) adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10

(2)

1980 p. 43. Diddymwyd paragraffau 2(a) a 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44); dirymwyd paragraff 2(a) gan adrannau 41, 332, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1), (13)(a) ac Atodlen 37, Rhan 4; dirymwyd paragraff 5 gan adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 o Atodlen 3 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 51(1) a (13)(b).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources