Search Legislation

Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adrannau 170, 179 a 180 o’r Ddeddf ar 1 Tachwedd 2014.

Mae adran 170 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ymrwymo i drefniadau ar y cyd mewn perthynas â’u gwasanaethau mabwysiadu.

Mae adran 179 yn diwygio Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 drwy fewnosod Rhan 2A, Rhan 2B ac Atodlen 3A newydd.

Mae Rhan 2A yn darparu pwerau newydd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“OGCC”) i ymchwilio i gwynion am fathau penodol o ofal cymdeithasol a gofal lliniarol. O dan Ran 2A caiff OGCC gymryd unrhyw gamau y mae’n barnu eu bod yn briodol gyda golwg ar ddatrys cwyn. Mae Rhan 2A hefyd yn darparu sut y mae rhaid i OGCC gynnal ymchwiliad a sut y caniateir i gŵyn gael ei gwneud. Mae Rhan 2A yn darparu bod rhaid i OGCC, ar ôl cynnal ymchwiliad, lunio adroddiad ac anfon copi o’r adroddiad at bersonau priodol. Mae Rhan 2A yn caniatáu i OGCC gyhoeddi’r adroddiad os yw’n barnu y byddai er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Mae Atodlen 3A yn rhestru materion sydd wedi eu heithrio o’r darpariaethau yn Rhan 2A.

Mae Rhan 2B yn nodi’r amgylchiadau pan fydd rhaid i OGCC ymgynghori ag ombwdsmyn eraill. Mae Rhan 2B hefyd yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i OGCC weithio ar y cyd a chydlafurio â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae Rhan 2B yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i wybodaeth gael ei datgelu a pha gyhoeddiadau sydd â braint absoliwt at ddiben hawliadau difenwi.

Mae adran 180 yn diwygio adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Mae adran 187 o Ddeddf 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol. Mae’r diwygiad yn estyn y diffiniad o wasanaethau eirioli annibynnol i wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy i unigolion sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud cwyn o dan weithdrefn a weithredir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol. Mae’r diwygiad hefyd yn estyn y diffiniad i wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy i unigolion sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud cwyn i OGCC sy’n ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources