- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Awst 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (1);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd San Steffan, yn Ddydd Gwener y Groglith, nac yn ddiwrnod sy’n wŷl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);
ystyr “eiriolwr” (“advocate”) yw person sy’n darparu cymorth o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan Reoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004(3) yn unol ag adran 26A(1) o Ddeddf 1989;
ystyr “gweithdrefn sylwadau flaenorol” (“former representations procedure”) yw’r weithdrefn sylwadau a sefydlwyd o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2005;
ystyr “person annibynnol” (“independent person”) yw’r person, nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol y gwnaed sylwadau wrtho nac yn swyddog o’r awdurdod hwnnw, nac ychwaith yn briod neu’n bartner sifil aelod neu swyddog o’r fath, sy’n cymryd rhan yn yr ystyriaeth o’r sylwadau ac mewn unrhyw drafodaethau dilynol, yn unol ag adran 26(4) o Ddeddf 1989;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005(4);
ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau o dan adran 24D neu adran 26 o Ddeddf 1989 neu baragraff 6(2) o Atodlen 7 iddi;
ystyr “ymchwilydd annibynnol” (“independent investigator”) yw’r person, nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol y gwnaed sylwadau wrtho nac yn swyddog o’r awdurdod hwnnw, nac ychwaith yn briod neu’n bartner sifil aelod neu swyddog o’r fath, ond mae’n cynnwys person y mae’r awdurdod lleol wedi ymuno mewn contract am wasanaethau gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad;
ystyr “ystyried sylwadau” (“to consider representations”) yw ystyried sylwadau o dan y weithdrefn a bennir yn y Rheoliadau hyn.
3.—(1) Rhaid gweithredu unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan Ddeddf 1989 yn unol â’r egwyddor, pan wneir sylwadau gan berson y mae adran 24D neu 26(3)(a) yn gymwys iddo, y dylai lles y person sy’n gwneud y sylwadau gael ei ddiogelu a’i hybu.
(2) Dylid cymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau canfyddadwy y person sy’n gwneud y sylwadau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: