- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r diwygiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn gymwys o ran cytundeb mewn cysylltiad â thir sy'n rhan o safle gwarchodedig yng Nghymru y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo a hwnnw'n gytundeb a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn ogystal ag o ran cytundeb o'r fath a wnaed ar y dyddiad y daeth y Gorchymyn hwn i rym neu ar ôl hynny.
(2) Nid yw unrhyw ddiwygiad a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed gan y llys cyn i'r Gorchymyn ddod i rym.
(3) Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn gymwys—
(a)at ddibenion unrhyw achos a gychwynnwyd, nac unrhyw geisiadau a wnaed i'r llys cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, neu
(b)o ran unrhyw fater sy'n destun unrhyw achos a gychwynnwyd, nac unrhyw geisiadau a wnaed i'r llys, cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym—
(a)bod meddiannydd safle gwarchodedig yng Nghymru wedi cyflwyno archiad i berchennog o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (neu'r paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan baragraff 9(2) o'r Bennod honno) ond nad oes unrhyw gais ynglŷn â'r archiad hwnnw wedi ei wneud i'r llys o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 (neu'r paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan baragraff 9(2) o'r Bennod honno),
(b)bod perchennog safle gwarchodedig yng Nghymru wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(2) o Bennod 2 ond nad oes unrhyw gais ynglŷn â'r hysbysiad hwnnw wedi ei wneud i'r llys o dan baragraff 17(4) o'r Bennod honno, neu
(c)bod perchennog safle gwarchodedig yng Nghymru wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(6)(b) o Bennod 2 yr Atodlen honno ond nad oes unrhyw gais ynglŷn â'r hysbysiad hwnnw wedi ei wneud i'r llys o dan baragraff 17(8) o'r Bennod honno.
(5) Os yw'r cais i'r llys a grybwyllwyd ym mharagraff (4)(a), (b) neu (c) wedi ei wneud ar neu cyn y dyddiad sy'n flwyddyn ar ôl y dyddiad cychwyn, ni fydd y diwygiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â'r cais hwnnw.
(6) Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan erthygl 3(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau Deddf 1983 a fewnosodwyd gan adran 206(1) neu (2) o Ddeddf Tai 2004, yn gymwys mewn perthynas â chytundebau cyn 2005.
(7) Ond, mewn perthynas â chytundebau cyn 2005, mae adrannau 1 a 2 o Ddeddf 1983, fel y maent yn gymwys i'r cytundebau hynny, yn cael effaith fel petai'r cyfeiriadau at y llys yn gyfeiriadau at dribiwnlys.
(8) Yn y modd y mae'n gymwys i gytundebau y mae Deddf 1983 yn gymwys iddynt a'r rheini'n gytundebau a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, mae'r Gorchymyn hwn yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—
(a)yn adran 4(3)(a), a fewnosodwyd gan erthygl 3(5) yn Neddf 1983, bod y geiriau “paragraph 4, 5 or 5A(2)(b) of Chapter 2, or” a “Chapter 4 of” wedi eu hepgor, a
(b)yng ngeiriau agoriadol erthygl 3(7), bod y geiriau “Chapter 2 of” wedi eu hepgor.
(9) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr erthygl hon at wneud cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw amrywiad ar gytundeb sy'n peri bod y cytundeb yn dod yn un y mae'r Ddeddf honno'n gymwys iddo.
(10) Yn yr erthygl hon—
ystyr “cytundeb cymrodeddu” (“arbitration agreement”) yw cytundeb ysgrifenedig i gyflwyno unrhyw gwestiwn a godir o dan Ddeddf 1983 neu unrhyw gytundeb y mae'n gymwys iddo i fynd drwy broses gymrodeddu;
ystyr “cytundebau cyn 2005” (“pre-2005 agreements”) yw cytundebau mewn cysylltiad â thir sy'n rhan o safle gwarchodedig yng Nghymru y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ond nad yw'r diwygiadau a wnaed gan adran 206(1) a (2) o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 206(4) o'r Ddeddf honno;
mae “y llys” (“the court”) a “perchennog” (“owner”) i'w dehongli'n unol â Deddf 1983 fel yr oedd yn cael effaith ar yr adeg berthnasol;
ystyr “tribiwnlys” (“a tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl neu, pan fo'r partïon wedi ymrwymo i gytundeb cymrodeddu sy'n gymwys i'r cwestiwn sydd i'w benderfynu a bod y cwestiwn hwnnw wedi codi cyn i'r cytundeb gael ei wneud, y cymrodeddwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: