Search Legislation

Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 737 (Cy.97)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012

Gwnaed

7 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 39(6), 40 a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2012.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cwmpas a dehongli

2.—(1Yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn—

(a)mae rheoliadau 5 i 18 yn gymwys i geisiadau i Weinidogion Cymru o dan adran 38(1) o Ddeddf 2006 Act am ganiatâd i gyflawni gwaith cyfyngedig ar dir comin;

(b)mae rheoliadau 19 ac 20 yn gymwys i geisiadau i Weinidogion Cymru o dan adran 39(5) o Ddeddf 2006 am amrywio neu ddirymu unrhyw addasiad neu amod a osodwyd mewn perthynas â chaniatâd a roddwyd yn unol â chais o dan adran 38(1); ac

(c)mae rheoliad 21 yn gymwys i geisiadau i Weinidogion Cymru o dan adran 23(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971(3).

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw—

(a)

os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n penderfynu, person a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad safle;

(b)

os person arall yw'r awdurdod sy'n penderfynu, y person sy'n cynnal gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad safle;

ystyr “yr awdurdod sy'n penderfynu” (“the determining authority”) yw—

(a)

Gweinidogion Cymru, pan fônt yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â phenderfynu cais o unrhyw un o'r mathau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1); neu

(b)

person sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â phenderfynu cais o'r fath yn unol â phenodiad o dan reoliad 3(1) (ac eithrio arolygydd a benodir i gynnal gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad safle, ond nid i benderfynu cais);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(4);

ystyr “Deddf 2006”(“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

ystyr “hysbysiad o gais” (“notice of application”) yw hysbysiad sy'n cynnwys y manylion a bennir yn rheoliad 7(2);

ystyr “tir comin” (“common land”) yw tir o fath a bennir yn adran 38(5)(a) a (b) o Ddeddf 2006.

Penodi person i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer unrhyw rai neu'n cyfan o'u swyddogaethau mewn perthynas ag—

(a)ceisiadau o bob un, neu unrhyw rai, o'r mathau a grybwyllir ym mharagraff (1) o reoliad 2; neu

(b)un neu ragor o geisiadau penodol o unrhyw rai o'r mathau hynny.

(2Rhaid i unrhyw benodiad o dan baragraff (1) fod mewn ysgrifen.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i berson a benodwyd o dan baragraff (1) (“person penodedig”)—

(a)dirymu'r penodiad yn gyffredinol;

(b)dirymu'r penodiad i'r graddau y mae'n ymwneud â chais penodol nas penderfynwyd gan y person penodedig cyn yr adeg honno; neu

(c)dirymu awdurdod y person penodedig i arfer swyddogaeth benodol mewn perthynas â chais .

(4Ni fydd hysbysiad o dan baragraff (3) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed gan y person penodedig cyn rhoi'r hysbysiad.

Cyfathrebiadau electronig

4.  Ceir defnyddio cyfathrebiad electronig i fodloni unrhyw ofyniad, a osodir gan y Rheoliadau hyn, i'r perwyl bod person i anfon hysbysiad neu ddogfen at berson arall—

(a)os canlyniad hynny fydd rhoi'r wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen ar gael i'r person arall mewn ffurf gyffelyb i'r ffurf y byddai'r wybodaeth yn ymddangos ynddi mewn hysbysiad neu ddogfen a anfonid mewn ffurf brintiedig; a

(b)os yw'r person arall yn cydsynio ag anfon yr hysbysiad neu'r ddogfen ato yn y modd hwnnw.

RHAN 2Gwaith ar dir comin

Cais am ganiatâd i gyflawni gwaith cyfyngedig

5.—(1Rhaid i gais y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)cael ei wneud mewn ysgrifen ar ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen honno; ac

(c)cael ei lofnodi gan y ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd.

(2Rhaid cyflwyno'r cais ynghyd ag—

(a)map sy'n dangos y tir comin y bwriedir cyflawni'r gwaith arno, gydag—

(i)ffin y tir comin wedi ei marcio ar y map â lliw gwyrdd; a

(ii)safle'r gwaith arfaethedig wedi ei farcio ar y map â lliw coch;

(b)pan fo'n briodol, plan neu luniad o'r gwaith arfaethedig; ac

(c)os yw'r tir yn dir comin cofrestredig, copi o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr o dir comin.

Rheoli cais

6.—(1Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu anfon at y ceisydd i gydnabod ei fod wedi ei gael, a rhaid i'r gydnabyddiaeth honno gynnwys—

(a)y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r cais; a

(b)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost lle gellir anfon cyfathrebiadau ysgrifenedig ynglŷn â'r cais at yr awdurdod sy'n penderfynu.

(2Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu, naill ai ar yr adeg y mae'n cael y cais neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau o dan reoliad 10, benderfynu pa un a ymdrinnir â'r cais—

(a)ar sail sylwadau ysgrifenedig,

(b)mewn gwrandawiad, neu

(c)mewn ymchwiliad cyhoeddus,

a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw.

(3Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n penderfynu ac os penderfynant yr ymdrinnir â'r cais mewn gwrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus, rhaid iddynt benodi arolygydd i gynnal unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad ac i ddarparu adroddiad ac argymhelliad i Weinidogion Cymru.

(4Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu, naill ai wrth gydnabod y cais neu ar unrhyw adeg ddiweddarach, roi cyfarwyddyd i'r ceisydd i—

(a)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau a hepgorwyd o'r cais;

(b)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi penderfynu'r cais; neu

(c)anfon hysbysiad o'r cais at bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd, neu arddangos hysbysiad o'r cais mewn mannau a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ychwanegol at y gofynion yn rheoliad 7(1).

(5Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu bennu terfyn amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn.

Rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais

7.—(1Rhaid i'r ceisydd, ddim hwyrach na saith diwrnod ar ôl gwneud cais—

(a)cyhoeddi hysbysiad o'r cais mewn newyddiadur sy'n cylchredeg yn yr ardal lle bwriedir cyflawni'r gwaith;

(b)am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, arddangos hysbysiad o'r cais yn y prif fannau mynediad i'r tir comin y bwriedir cyflawni'r gwaith arno (neu, os nad oes mannau o'r fath, mewn man amlwg ar ffin y tir comin hwnnw); ac

(c)anfon hysbysiad o'r cais at—

(i)perchennog y tir y bwriedir cyflawni'r gwaith arno (os nad y ceisydd yw'r perchennog);

(ii)unrhyw berson arall sydd â meddiant o'r tir;

(iii)os yw'r tir yn dir comin cofrestredig, meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr o dir comin fel eiddo sydd â hawliau comin dros y tir ynghlwm wrtho, os yw'r ceisydd yn credu bod y meddiannydd hwnnw'n arfer yr hawliau hynny, neu y byddai'r cais yn debygol o effeithio ar y meddiannydd;

(iv)unrhyw berson arall y mae'n hysbys i'r ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin dros y tir, os yw'r ceisydd yn credu bod y person hwnnw'n arfer yr hawliau hynny, neu y byddai'r cais yn debygol o effeithio arno;

(v)y cyngor cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal lle bwriedir gwneud y gwaith.

(2Rhaid i'r hysbysiad gynnwys y manylion canlynol—

(a)enw'r ceisydd;

(b)enw'r tir comin yr effeithid arno gan y gwaith arfaethedig;

(c)disgrifiad o'r gwaith arfaethedig a'i leoliad;

(ch)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost lle gellir anfon unrhyw sylwadau;

(d)y dyddiad pan ddaw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau i ben, sef dyddiad na chaiff fod yn gynharach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cydymffurfir yn llawn â pharagraff (1);

(dd)cyfeiriad lle mae'r ffurflen gais a'r dogfennau a restrir yn rheoliad 5(2) ar gael i'w harchwilio;

(e)yr amseroedd a'r dyddiadau pan ganiateir archwilio felly, sef amseroedd a dyddiadau y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliad 8(2) ; ac

(f)cyfeiriad lle y gellir cael copi o'r ffurflen gais ac o'r dogfennau a gyflwynwyd gyda'r cais.

(3Rhaid i'r ceisydd hefyd anfon hysbysiad o'r cais at unrhyw bersonau, neu arddangos hysbysiad o'r cais mewn unrhyw fannau, fel a gyfarwyddir gan yr awdurdod sy'n penderfynu o dan reoliad 6(4).

(4Rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad i'r awdurdod sy'n penderfynu pan fo'r ceisydd wedi cydymffurfio â pharagraffau (1) i (3), a rhaid i'r hysbysiad hwnnw—

(a)cynnwys manylion o'r canlynol—

(i)y newyddiadur y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r cais ynddo, a'r dyddiad cyhoeddi;

(ii)y dyddiad y gosodwyd hysbysiad o'r cais ar y tir;

(iii)y personau yr anfonwyd hysbysiad o'r cais atynt, y dyddiad neu'r dyddiadau yr anfonwyd yr hysbysiadau hynny, a natur buddiant pob un o'r personau hynny yn y tir (os oes buddiant);

(iv)y man lle gosodwyd hysbysiad o'r cais ar y tir (gan gyfeirio at fap os oes angen); a

(b)cael ei gyflwyno ynghyd â chopi o'r dudalen berthnasol o'r newyddiadur y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r cais ynddo.

(5Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) wedi dod i ben, a hynny pan nad oes bai ar y ceisydd na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.

Archwilio a chyflenwi copïau o ddogfennau

8.—(1Rhaid i'r ceisydd sicrhau bod copïau o'r cais ac o'r dogfennau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais ar gael i'w harchwilio yn y cyfeiriad a bennwyd at y diben hwnnw yn yr hysbysiad o gais, ar yr amseroedd a'r dyddiadau a bennwyd yn yr hysbysiad o gais.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r amseroedd a'r dyddiadau pan yw'n ofynnol bod y cais a'r dogfennau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais ar gael i'w harchwilio gynnwys yr holl oriau swyddfa arferol yn ystod cyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau.

(3Caiff unrhyw berson ofyn am gopi gan y ceisydd, o'r cais ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd ynghyd ag ef, drwy ysgrifennu i'r cyfeiriad a bennir at y diben hwnnw yn yr hysbysiad o gais.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r ceisydd ymateb i gais o dan baragraff (3) drwy gyflenwi'r dogfennau y gofynnwyd amdanynt cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(5Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu roi cyfarwyddyd sy'n awdurdodi trefniadau eraill ar gyfer archwilio neu gyflenwi copïau o ddogfennau, os bodlonir yr awdurdod na ellir, yn rhesymol, ddisgwyl i'r ceisydd gydymffurfio â'r rhwymedigaeth ym mharagraff (2) neu (4).

Methiant i gydymffurfio

9.  Os yw'r ceisydd yn peidio â chydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, neu ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan reoliad 6, caiff yr awdurdod sy'n penderfynu—

(a)trin y cais fel pe bai wedi ei dynnu'n ôl;

(b)rhoi cyfarwyddiadau i'r ceisydd i unioni'r methiant i gydymffurfio (ac os yw'n briodol, estyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau); neu

(c)diystyru'r methiant i gydymffurfio, os bodlonir yr awdurdod sy'n penderfynu y byddai'n afresymol gwneud cydymffurfio'n ofynnol ac nad yw'n debygol y niweidir neb oherwydd y methiant i gydymffurfio.

Sylwadau

10.—(1Caiff unrhyw berson anfon sylwadau ynglŷn â'r gwaith arfaethedig at yr awdurdod sy'n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais.

(2Rhaid i sylwadau o dan baragraff (1)—

(a)datgan enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau, a natur buddiant y person hwnnw yn y tir neu'r gwaith arfaethedig (os oes buddiant);

(b)bod mewn ysgrifen ac wedi eu llofnodi gan y person sy'n eu gwneud; ac

(c)datgan ar ba seiliau y gwneir y sylwadau.

(3Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau, rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu naill ai—

(a)hysbysu'r ceisydd nad oes unrhyw sylwadau wedi eu gwneud; neu

(b)anfon at y ceisydd gopi o'r holl sylwadau a gafwyd.

(4Pan fo'r ceisydd wedi cael copi o sylwadau o dan baragraff (3)(b), caiff y ceisydd anfon ymateb i'r sylwadau hynny at yr awdurdod sy'n penderfynu, o fewn 21 diwrnod ar ôl cael copi o'r fath.

(5Rhaid i ymateb o dan baragraff (4) fod mewn ysgrifen ac wedi ei lofnodi gan y ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd.

(6Yn achos dogfen a anfonir gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r Rheoliadau hyn, bodlonir y gofynion ym mharagraffau (2) a (5), sef bod y ddogfen wedi ei llofnodi, os yw'r person y mae'n ofynnol iddo lofnodi'r ddogfen yn teipio enw'r person hwnnw neu'n cynhyrchu llofnod y person hwnnw drwy ddefnyddio cyfrifiadur neu ddull mecanyddol arall.

Hysbysiad o wrandawiad neu ymchwiliad

11.—(1Os yw'r awdurdod sy'n penderfynu yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad, rhaid iddo sicrhau —

(a)y cyhoeddir hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad ar wefan briodol, a hefyd mewn newyddiadur sy'n cylchredeg yn yr ardal lle bwriedir gwneud y gwaith ;

(b)yr anfonir hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad at unrhyw berson a wnaeth sylwadau yn unol â rheoliad 10; ac

(c)os yw'r awdurdod sy'n penderfynu o'r farn bod angen hynny, y rhoddir cyhoeddusrwydd i hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad ym mha bynnag ffordd arall, neu'r anfonir yr hysbysiad at ba bynnag bersonau eraill, fel y bo'n briodol er mwyn dwyn y gwrandawiad neu ymchwiliad i sylw personau y mae'r gwaith yn debygol o effeithio arnynt.

(2Rhaid i'r hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad gynnwys —

(a)disgrifiad o'r gwaith arfaethedig a'i leoliad;

(b)datganiad i'r perwyl y cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad (yn ôl fel y digwydd) mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig;

(c)dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad neu ymchwiliad ac enw'r arolygydd; a

(ch)cyfeiriad lle gellir cael copi o'r ffurflen gais ac o'r dogfennau a gyflwynwyd gyda'r cais, gan yr awdurdod sy'n penderfynu.

(3Ni chaiff y dyddiad a bennir ar gyfer dechrau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad fod yn gynharach na chwe wythnos ar ôl yr adeg y cydymffurfiwyd â pharagraff (1).

Gwrandawiadau ac ymholiadau: darpariaethau cyffredinol

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn ac i reoliadau 13 a 15, mae'r weithdrefn mewn gwrandawiad neu ymchwiliad i'w phenderfynu gan yr arolygydd.

(2Caiff unrhyw berson sydd â diddordeb yn y mater sydd gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad ymddangos yn y gwrandawid neu ymchwiliad, naill ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd.

(3Caiff yr arolygydd, ar unrhyw adeg yn ystod gwrandawiad neu ymchwiliad, rwystro unrhyw berson rhag—

(a)rhoi tystiolaeth,

(b)croesholi person sy'n rhoi tystiolaeth, neu

(c)cyflwyno unrhyw fater,

os yw'r arolygydd o'r farn bod hynny'n amherthnasol neu'n ailadroddus.

(4Caiff yr arolygydd, os yw'r arolygydd o'r farn bod person yn ymddwyn yn aflonyddgar—

(a)gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n gadael gwrandawiad neu ymchwiliad,

(b)rhwystro'r person hwnnw rhag cymryd rhan yn y gwrandawiad neu ymchwiliad drwy roi tystiolaeth, croesholi person sy'n rhoi tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater, neu

(c)caniatáu i'r person hwnnw aros yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, neu gymryd rhan ynddo, yn ddarostyngedig i amodau penodedig yn unig.

(5Caiff yr arolygydd fynd ymlaen â gwrandawiad neu ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos ynddo.

(6Caiff yr arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gaiff yr arolygydd gan unrhyw berson cyn neu yn ystod gwrandawiad neu ymchwiliad, ar yr amod bod yr arolygydd yn datgelu hynny yn y gwrandawiad neu ymchwiliad.

(7Caiff yr arolygydd—

(a)gohirio gwrandawiad neu ymchwiliad i'w barhau ar ddyddiad arall;

(b)gohirio gwrandawiad neu ymchwiliad er mwyn ei ailgynnull ar safle'r gwaith arfaethedig, a chynnal rhan o'r gwrandawiad neu ymchwiliad ar y safle hwnnw, ynghyd â chynnal archwiliad safle.

Y weithdrefn mewn gwrandawiadau

13.—(1Rhaid i wrandawiad fod ar ffurf trafodaeth dan arweiniad yr arolygydd.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 12(3) i (5)—

(a)mae hawl gan y ceisydd i roi, neu alw person arall i roi, tystiolaeth ar lafar; a

(b)caiff unrhyw berson arall roi tystiolaeth ar lafar gyda chaniatâd yr arolygydd.

(3Ni chaniateir croesholi oni fydd yr arolygydd yn penderfynu bod hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau archwiliad digonol o'r materion gerbron.

Cyfarfod cyn yr ymchwiliad

14.—(1Os penderfynwyd cynnal ymchwiliad, caiff yr arolygydd gynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, os yw'r arolygydd o'r farn y byddai'n ddymunol gwneud hynny er mwyn penderfynu pa faterion sydd i'w trafod a pha weithdrefn i'w dilyn yn yr ymchwiliad.

(2Os yw'r arolygydd yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, rhaid i'r arolygydd roi cyfnod o rybudd o ddim llai na dwy wythnos, mewn ysgrifen, i'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw berson a wnaeth sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â'r cais; ac

(c)unrhyw berson arall y byddai ei bresenoldeb yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad yn ddymunol ym marn yr arolygydd.

(3Mae paragraffau (1) i (5) o reoliad 12 (i'r graddau y maent yn berthnasol) yn gymwys i gyfarfodydd cyn yr ymchwiliad, fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau.

(4Mewn cyfarfod cyn yr ymchwiliad, caiff yr arolygydd—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i'r ceisydd ac i unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos yn yr ymchwiliad, ynglŷn â'r pethau sydd i'w gwneud i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad; a

(b)pennu dyddiad neu ddyddiadau terfynol ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau o'r fath.

(5Yn benodol, caiff yr arolygydd gyfarwyddo unrhyw berson sy'n dymuno rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad—

(a)i anfon datganiad ysgrifenedig o'r dystiolaeth honno at yr arolygydd; a

(b)i anfon copi o'r datganiad ysgrifenedig hwnnw at ba bynnag bersonau eraill a bennir gan yr arolygydd.

Y weithdrefn mewn ymchwiliadau

15.—(1Ar ddechrau ymchwiliad, rhaid i'r arolygydd—

(a)nodi'r prif faterion sydd i'w hystyried yn yr ymchwiliad;

(b)nodi unrhyw faterion y mae'n ofynnol gan yr arolygydd gael esboniad pellach yn eu cylch gan unrhyw berson sy'n ymddangos yn yr ymchwiliad; ac

(c)esbonio'r weithdrefn sydd i'w dilyn yn yr ymchwiliad.

(2Nid yw paragraff (1)(a) yn allgáu materion eraill rhag cael eu hystyried, neu eu codi gan bersonau sy'n ymddangos yn yr ymchwiliad.

(3Os yw person sy'n rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad wedi darparu datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth yn unol â chyfarwyddyd o dan reoliad 14(5), caiff yr arolygydd gyfarwyddo—

(a)bod y datganiad ysgrifenedig i'w drin fel tystiolaeth y person hwnnw, neu fel rhan o dystiolaeth y person hwnnw; a

(b)y caiff partïon eraill yn yr ymchwiliad groesholi'r person hwnnw ynglŷn â'r datganiad ysgrifenedig.

Archwiliadau safle

16.—(1Os yw cais i gael ei benderfynu heb gynnal gwrandawiad nac ymchwiliad, caiff yr awdurdod sy'n penderfynu, ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r cais, benodi neu neilltuo arolygydd i archwilio safle'r gwaith arfaethedig ac i ddarparu adroddiad.

(2Caiff arolygydd sy'n cynnal gwrandawiad neu archwiliad archwilio safle'r gwaith arfaethedig.

(3Os yw arolygydd yn bwriadu gwneud archwiliad safle o dan baragraff (1) neu (2), rhaid i'r arolygydd ofyn i'r ceisydd a yw'r ceisydd yn dymuno bod yn bresennol, neu gael ei gynrychioli, yn yr archwiliad safle.

(4Os yw'r ceisydd yn datgan ei fod yn dymuno bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli, rhaid i'r arolygydd roi rhybudd rhesymol i'r ceisydd, o ddyddiad ac amser yr archwiliad, a rhoi cyfle i'r ceisydd, neu gynrychiolydd y ceisydd, fod yn bresennol.

(5Nid yw'n ofynnol bod arolygydd yn gohirio archwiliad os nad yw'r ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd yn bresennol ar yr adeg benodedig.

Newidiadau yn y weithdrefn

17.—(1Os yw'r awdurdod sy'n penderfynu wedi hysbysu'r ceisydd y cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad mewn perthynas â chais, caiff yr awdurdod, ar unrhyw adeg cyn bo'r gwrandawiad neu ymchwiliad wedi dod i ben, benderfynu—

(a)diddymu'r gwrandawiad neu ymchwiliad a phenderfynu'r cais drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig; neu

(b)cynnal gwrandawiad yn hytrach nag ymchwiliad, neu i'r gwrthwyneb.

(2Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu ymgynghori â'r ceisydd cyn penderfynu newid y weithdrefn ar gyfer penderfynu cais.

Penderfynu cais

18.—(1Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ystyried—

(a)y cais a'r holl sylwadau a wnaed yn unol â rheoliad 10,

(b)unrhyw adroddiad gan arolygydd yn dilyn archwiliad safle, ac

(c)os cynhaliwyd gwrandawiad neu ymchwiliad—

(i)y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gwrandawiad neu ymchwiliad (os gwneir y penderfyniad gan yr arolygydd a glywodd y dystiolaeth honno), neu

(ii)adroddiad ac argymhelliad yr arolygydd (os na wneir y penderfyniad gan yr arolygydd),

rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu benderfynu pa un a roddir caniatâd ar gyfer y gwaith arfaethedig ai peidio, a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw, mewn ysgrifen.

(2Rhaid i'r penderfyniad ddatgan, gan roi rhesymau, pa un a yw'r caniatâd ar gyfer y gwaith arfaethedig—

(a)wedi ei roi fel y gofynnir yn y cais;

(b)wedi ei roi yn rhannol yn unig, neu'n ddarostyngedig i addasiadau neu amodau; neu

(c)wedi ei wrthod.

(3Os yw arolygydd wedi paratoi adroddiad yn dilyn gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad safle, rhaid anfon copi o'r adroddiad hwnnw gyda'r hysbysiad o'r penderfyniad a anfonir at y ceisydd.

(4Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu gyhoeddi'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, ar wefan briodol.

Cais i amrywio neu ddirymu addasiadau neu amodau

19.—(1Pan fo caniatâd yn gosod addasiadau neu amodau, rhaid i unrhyw gais o dan adran 39(5) o Ddeddf 2006 am ddirymu neu amrywio'r addasiadau neu'r amodau hynny gael ei wneud o fewn 3 mis ar ôl y dyddiad yr hysbysir y ceisydd o'r penderfyniad i roi caniatâd.

(2Rhaid i'r cais—

(a)bod mewn ysgrifen;

(b)nodi'r addasiad neu'r amod y mae'r ceisydd yn gofyn am ei amrywio neu ddirymu;

(c)disgrifio'r amrywiad a geisir, gan roi rhesymau am hynny; a

(ch)cael ei lofnodi gan y ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd.

Gweithredu ar ôl cael cais i ddirymu neu amrywio addasiadau neu amodau

20.—(1Ar ôl cael cais y cyfeirir ato yn rheoliad 19(1), caiff yr awdurdod sy'n penderfynu naill ai—

(a)penderfynu'r cais; neu

(b)rhoi cyfarwyddiadau i'r ceisydd i hysbysu personau penodedig o'r cais, a chaniatáu cyfle i'r personau hynny wneud sylwadau cyn penderfynu'r cais.

(2Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu—

(a)hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'i benderfyniad ac o'r rhesymau drosto;

(b)cyhoeddi'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, ar wefan briodol.

Ceisiadau am ganiatâd ar gyfer gwaith ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

21.—(1Mae rheoliadau 5 i 18 yn gymwys mewn perthynas â chais o dan adran 23(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971(5), fel pe bai'n gais o dan adran 38(1) o Ddeddf 2006.

(2Pan wneir cais gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rhaid i'r cais, yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol gan reoliad 5, ardystio bod y gwaith arfaethedig o fewn pwerau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

(3Mae rheoliadau 19 ac 20 yn gymwys mewn perthynas â chais o dan adran 39(5) o Ddeddf 2006 am amrywio neu ddirymu unrhyw addasiad neu amod a osodwyd mewn cysylltiad ag unrhyw ganiatâd a roddwyd ynglŷn â chais o dan adran 23(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi'r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau i Weinidogion Cymru o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) am ganiatâd i gyflawni gwaith cyfyngedig ar dir comin, a mathau cysylltiedig penodol o geisiadau. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae i'r term 'gwaith cyfyngedig' yr ystyr a roddir i 'restricted works' gan adran 38(2), (3) a (4) o Ddeddf 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi person i arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o'r fath (rheoliad 3).

Maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch—

(a)gwneud a rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau (rheoliadau 5, 7, 8 a 19);

(b)gwneud sylwadau mewn perthynas â cheisiadau (rheoliad 10);

(c)rheoli a phenderfynu ceisiadau, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliadau safle, gwrandawiadau neu ymchwiliadau mewn achosion priodol (rheoliadau 6, 9, 11-18 ac 20); a

(ch)ceisiadau am ganiatâd ar gyfer gwaith ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (rheoliad 21).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar-lein o www.cymru.gov.uk.

(1)

2006 p.26. Mae adran 61(1) yn cynnwys diffiniadau o “appropriate national authority” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(3)

1971 p.vi, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006. Mae adrannau 39 a 40 o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas â chais o dan adran 23(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971 yn rhinwedd adran 23(2A) o'r Ddeddf honno, fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 4(3) o Atodlen 4 i Ddeddf 2006.

(4)

2000 p.7. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communication” gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), Atodlen 17, paragraff 158.

(5)

1971 p.vi, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006. Mae adrannau 39 a 40 o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas â chais o dan adran 23(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971 yn rhinwedd adran 23(2A) o'r Ddeddf honno, fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 4(3) a Atodlen 4 i Ddeddf 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources