- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 4
1. Mae unrhyw achrediad a roddir at ddibenion rheoliad 7 o Reoliadau 2004, neu i gael effaith fel pe bai'r achrediad wedi ei roi felly, ac a oedd mewn grym yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn, i gael effaith fel pe bai'r achrediad wedi ei roi at ddibenion rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn.
2. Nid yw paragraff 1(c) o Atodlen 2 yn gymwys mewn achos personau a ddechreuodd gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru cyn 1 Medi 2008 ac nad ydynt wedi eu hysbysu'n ysgrifenedig eu bod yn athrawon cymwysedig o dan reoliad 6 o Reoliadau 2004 ar 31 Mawrth 2012 neu cyn hynny.
3. Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a nodir yng Nghynllun 2011, mae Cynllun 2006 i barhau mewn grym tan 1 Medi 2012.
4. Pan fo person yn cwblhau cyfnod o hyfforddiant yn llwyddiannus ar Gynllun 2006 neu'n bodloni gofynion y cynllun hwnnw fel arall, rhaid darllen paragraff 2 o Atodlen 2 fel pe bai, ar ôl “sefydliad achrededig”, y geiriau “neu gan berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn gymwys i asesu cymhwysedd athrawon dan hyfforddiant yn ôl y safonau penodedig yn unol â'r cynllun hwnnw” wedi eu mewnosod.
5. Bydd Cynllun 2011, sydd yn gymwys mewn perthynas â rhaglenni hyfforddi sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn parhau mewn grym tan yr adeg honno pan fydd cynllun yn cael ei sefydlu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau hyn, neu tan y dirymir ef gan Weinidogion Cymru, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: