Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu—

1.  Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant;LL+C

2.  Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd;LL+C

3.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys;LL+C

4.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau;LL+C

5.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr;LL+C

6.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/55/EC a 2002/57/EC parthed enwau botanegol planhigion, enwau gwyddonol organebau eraill ac Atodiadau penodol i Gyfarwyddebau 66/401/EEC, 66/402/EEC, a 2002/57/EC yng ngoleuni datblygiadau mewn gwybodaeth wyddonol a thechnegol;LL+C

7.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu'r amgylchedd naturiol (OJ Rhif L 228, 31.8.2010, t.10);LL+C

8.  Penderfyniad y Comisiwn 2011/180/EU sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC parthed yr amodau y caniateir awdurdodi odanynt farchnata pecynnau bach o gymysgeddau o hadau safonol gwahanol amrywogaethau o lysiau o'r un rhywogaeth (OJ Rhif L 78, 24.3.2011, t.55).LL+C

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yn rhannol (fel y bo angen)—

9.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, a marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny; aLL+C

10.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau, yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny.LL+C

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau presennol (a Rheoliadau diwygio perthynol) mewn perthynas â hadau ŷd, hadau planhigion porthiant, hadau planhigion olew a ffibr, hadau llysiau ac ynglŷn â chofrestru, trwyddedu a gorfodi hadau.

Rhannau rhagarweiniol o'r Rheoliadau hyn yw Rhannau 1 a 2, sy'n pennu'r gwahanol gategorïau o hadau.

Nodir y mathau o hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn Atodlen 1.

Mae Rhan 3 yn cynnwys gofynion ar gyfer marchnata hadau. Er mwyn eu marchnata, rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion a bennir o ran ardystio, pecynnu, selio a labelu (rheoliad 8). Mae Atodlen 2 yn pennu'r gofynion ardystio ac mae Atodlen 3 yn pennu'r gofynion labelu ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwerthu hadau rhydd. Mae Atodlen 4 yn pennu eithriadau i'r gofynion cyffredinol.

Mae Rhan 3 yn gosod gofynion o ran cadw cofnodion (rheoliad 19).

O dan Ran 4, mae'n ofynnol cael trwydded i ymgymryd â rhai gweithrediadau megis marchnata hadau (rheoliad 20). Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu arolygwyr cnydau, samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau, i weithredu o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 21).

Mae Rhan 5 yn pennu darpariaethau gweinyddol (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ffioedd) a darpariaethau trosiannol.

Yn unol ag adran 16(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi, ar gollfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus, mewn perthynas â throsi Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC, ar gael o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources