- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn )
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005, O.S. 2005/3035 (Cy.223) (“y prif Reoliadau”) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145 (O.J. L312, 27.11.2009, t.44) (“y Gyfarwyddeb”). Mae'r Gyfarwyddeb yn darparu ar gyfer rhai rhanddirymiadau, ar gyfer derbyn amrywogaethau brodorol a botanegol o lysiau yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau'r amrywogaethau brodorol a botanegol hynny.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau drwy gyflwyno diffiniadau newydd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau. Mae'r rheoliad 19A newydd o'r prif Reoliadau, a fewnosodir gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, yn darparu na chaniateir marchnata hadau amrywogaeth cadwraeth ac eithrio yn rhanbarth ei tharddiad neu mewn rhanbarth ychwanegol, a'u bod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau meintiol. Nid yw'n ofynnol cynnal archwiliad swyddogol, ond mae hadau amrywogaeth cadwraeth yn ddarostyngedig i ôl-reoli swyddogol.
Mae'r Rheoliadau yn darparu hefyd ar gyfer marchnata amrywogaethau amatur. Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 o'r prif Reoliadau drwy gyflwyno diffiniad o hadau safonol amrywogaeth amatur. Mae'r rheoliad 19B newydd o'r prif Reoliadau, a fewnosodir gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, yn darparu bod hadau safonol amrywogaeth amatur yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau meintiol yn Erthygl 28 o'r Gyfarwyddeb ac Atodiad II iddi. Nid yw'n ofynnol cynnal archwiliad swyddogol, ond mae hadau amrywogaeth amatur yn ddarostyngedig i ôl-reoli swyddogol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau, gan gynnwys—
(a)Mewnosod diffiniadau newydd eraill yn y prif Reoliadau (rheoliadau 3 a 7);
(b)Amrywiol ddiwygiadau o ran samplu, selio a labelu (rheoliadau 4, 5, 6, 8 a 9).
Gwnaed Asesiad Effaith Rheoleiddiol rhannol, ar sail y DU gyfan, gan Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd y DU (FERA) mewn perthynas â gweithredu'r Gyfarwyddeb, ac y mae'r asesiad hwnnw ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Llywodraeth y DU.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: